Rhaid sylweddoli nad yw'r ganran a anwyd y tu allan i Gymru'n adlewyrchu'r ganran a fewnfudodd i ardal yn union. Mewn sawl ardal mae mamau'n teithio i ysbyty yn Lloegr i roi genedigaeth i'w plant. Mae ysbytai Amwythig a Henffordd, er enghraifft, yn gwasanaethu llawer o Bowys yn y modd hwn.