Gan fod pobl yn teithio i'r lle gwaith, gwelir y newidiadau positif mwyaf ble mae llawer o leoedd gwaith neu leoedd gwaith sylweddol eu maint. Yn y de-ddwyrain yn arbennig, gwelir effaith ysgolion cyfrwng Cymraeg yn tynnu siaradwyr Cymraeg i mewn i ardal. I'r gwrthwyneb, gwelir y newidiadau negyddol mwyaf yn yr ardaloedd preswyl, e.e. maestrefi a chefngwlad.