|
Mae ysgolion i fod i gasglu'r data yma gan rieni. Os na cheir y wybodaeth gan y rhieni, mae'r ysgol i roi eu barn. Nid oes diffiniad o 'ruglder': barn y rhieni/ysgol ydyw. Ni phennir a ydy'r ysgol i fod i holi barn y rhieni bob blwyddyn. Mae'n bosibl mai unwaith yn unig (os hynny) y'u holir. Yn yr achos hwnnw, ni fyddai'r asesiad a ddangosir yma yn erbyn grŵp blwyddyn penodol o reidrwydd yn adlewyrchu barn y rhieni/ysgol am allu'r plentyn yr adeg honno, ond yn hytrach eu barn yr adeg y casglwyd y data.
|