Bwriad y dadansoddiad hwn yw edrych ar ddilyniant addysg cyfrwng Cymraeg: a ydy plant sy’n cychwyn mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n cael eu hasesu mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 (o 1999 hyd at ac yn cynnwys 2011) neu’r Cyfnod Sylfaen (o 2012 ymlaen) yn dal mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 pedair blynedd yn ddiweddarach?

Mewn gwirionedd, dylai’r dadansoddiad gael ei seilio ar ganlyniadau’r disgyblion unigol ond nid yw’r data hynny ar gael i’r cyhoedd. Rhaid bodloni gyda chanlyniadau ar lefel awdurdod lleol. Nid yw hyn yn berffaith gan y bydd rhai o’r plant yn symud allan rhwng yr asesiadau a rhai plant yn symud i mewn. Mae’r symudiadau hyn yn golygu y gall y nifer o blant a gafodd eu hasesu amrywio oherwydd y symudiadau hynny ac nid oherwydd bod cyfrwng addysg y plant wedi newid. Hefyd, gallai mewnfudo olygu y gallai’r ganran a gafodd eu hasesu mewn Cymraeg gwympo er na fu newid yn nifer y plant a oedd yn cael eu haddysgu yn Gymraeg. Gallai allfudo achosi problem debyg.

Mae’r llinell fertigol yn y siartiau canlynol yn rhannu’r gyfres CA1/CS 4 blynedd ynghynt. Cyn y llinell, canlyniadau Cyfnod Allweddol 1 sy’n cael eu cymharu â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 2. Ar ôl y llinell, mae’r gymhariaeth rhwng canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen â Chyfnod Allweddol 2.

Mae Ynys Môn yn arbennig yn dangos patrwm rhyfedd: bod mwy yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach ymlaen yn eu gyrfa ysgol nag oedd wedi ei derbyn ar y dechrau. Mae’n anodd deall sut y gallai hynny fod yn gywir.

Canrannau

Roedd y bwlch—rhwng y ganran y gellid fod wedi disgwyl iddi gael ei hasesu ar sail canran Cyfnod Allweddol 1 neu’r Cyfnod Sylfaen bedair blynedd ynghynt, a’r ganran a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2—ar ei huchaf yn 2015 pan oedd yn 1.72 pwynt canran. Gweler siartiau Conwy, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent.

Erbyn 2019 roedd y bwlch wedi crebachu i 0.85 pwynt canran.

Niferoedd

O ran niferoedd roedd y bwlch—rhwng y niferoedd y gellid fod wedi disgwyl iddynt gael eu hasesu ar sail canran Cyfnod Allweddol 1 neu’r Cyfnod Sylfaen 4 blynedd ynghynt, a’r niferoedd a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2—ar ei huchaf yn 2016 pan oedd colled o 457 o ddisgyblion. Yn Sir Gaerfyrddin oedd y golled fwyaf, o 74 disgybl a Rhondda Cynon Taf yn ail gyda cholled o 53.

Erbyn 2019 roedd y bwlch wedi crebachu i golled o 220 o ddisgyblion drwy Gymru. Roedd Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd yn gyfrifol am golled o 56 disgybl yr un.