Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegol Gwladol (SYG) weithdy cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2021 ar 9 Tachwedd a’r cwestiynau am iaith oedd y prif bwnc dan sylw. Dyma gofnod o rai o’r materion a drafodwyd.
Dyma’r cwestiynau a ofynnwyd yn y cyfrifiad yng Nghymru yn 2011:
Mae’n debyg y bydd yr un cwestiynau am y Gymraeg yn cael eu cynnwys yn 2021 ond mae’r SYG wedi bod yn profi ffurfiau gwahanol i’r cwestiwn am brif iaith, yn benodol y syniad y gellid newid o ofyn ai Saesneg neu Gymraeg oedd y prif iaith – ac wedyn neidio i ofyn i’r atebwr ddweud pa iaith oedd ei brif iaith os nad oedd y Saesneg na’r Gymraeg yn brif iaith iddo/i – ac yn lle hynny gofyn am y Saesneg a’r Gymraeg ar wahân, fel a ganlyn, er enghraifft:
18. Beth yw eich prif iaith?
Saesneg – ewch i 20 (hynny yw, neidio heibio i gwestiwn am allu yn y Saesneg)
Cymraeg – ewch i 20
Arall, nodwch (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain)
………………………………..
19. Pa mor ddal allwch chi siarad Saesneg?
Da iawn etc
Roedd y SYG wedi cynnal pedwar grŵp ffocws i drafod hyn, yn ardaloedd Caerdydd/Casnewydd; Abertawe; Ystradgynlais/Aberhonddu; Caernarfon, er, os deallais yn gywir, dim ond ugain o bobl a gynhwyswyd i gyd.
Nod y SYG wrth gynnwys y cwestiynau hyn yw cael data am y nifer o bobl nad ydynt yn gallu siarad Saesneg yn ddigon da i ddefnyddio neu dderbyn gwasanaethau Saesneg. Gofynnwyd yr un cwestiwn yn Lloegr yn 2011 – heblaw mai gofyn yn unig am y Saesneg a wnaed. (Trafodwyd a beiriadwyd y syniadaeth sydd y tu ôl i hyn yn Lloegr. e.e. gweler Sebba, M., 2017. Awkward questions: language issues in the 2011 census in England. Journal of Multilingual and Multicultural Development, pp.1-13. http://dx.doi.org/10.1080/01434632.2017.1342651)
Ar ôl cryn drafodaeth f’argraff i oedd fod y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn bresennol yn gwrthwynebu’r awgrym hwn. Rhoddwyd rhai o’r dadleuon canlynol gerbron.
- Mae gofyn am brif iaith, os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich prif iaith, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Nid yw’n trin y Gymraeg yn debyg i ieithoedd lleiafrifoedd eraill ond yn rhoi y statws dyledus iddi fel iaith swyddogol yng Nghymru.
- Nid yw deddfwriaeth am y Gymraeg yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o siaradwyr, e.e. siaradwyr prif iaith, mamiaith, iaith gyntaf, siaradwyr rhugl ac yn y blaen. Oherwydd hynny, nid oes defnyddo swyddogol o fath yn y byd i ddata sy’n rhannu siaradwyr Cymraeg yn ddosbarthau amrywiol.
- I gymdeithasegwyr iaith a chynllunwyr iaith, mae data am rai dosbarthau gwahanol o siaradwyr o ddiddordeb ond gall arolygon a ffynhonellau data eraill, e.e. y cyfrifiad ysgolion ar lefel disgybl, ateb y rhan fwyaf o’r galw gan ddarparu data gweddol dibynadwy ar lefel genedlaethol neu ranbarthol am y dosbarthau gwahanol.
- Byddai medru nodi mai’r Gymraeg oedd eich prif iaith yn plesio rhai ond dylai caredigion yr iaith fod yn ymwybodol o’r canlyniad. Canlyniad sicr gofyn am y Gymraeg fel prif iaith yn benodol fyddai cynhyrchu amcangyfrif gwahanol o’r nifer a’r ganran sy’n siarad Cymraeg, a’r rhifau hynny yn rhwym o fod yn is na’r nifer a’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg, boed yn brif iaith ai peidio.
- Wedi hynny i gyd, efallai mai’r ddadl gryfaf oll yn erbyn y syniad yw bod y cwestiwn a gynigir yn rhy syml. Nid yw gofyn am ‘brif iaith’ yn cydnabod nad yw’n cysyniad hawdd. Mae defnydd pobl ddwyieithog neu aml-ieithog o’r ieithoedd maent yn gallu eu siarad yn amrywio yn ôl eu sefyllfa – ble? yn y cartref, yn y gwaith, – gyda phwy? teulu, cydweithwyr, cwsmeriaid, y meddyg, ac yn y blaen. Ac ai siarad yn unig sy dan sylw, neu allu darllen neu ysgrifennu hefyd? (Mae’r feirnidaeth hon yn ddilys i’r cwestiwn yn Lloegr hefyd.)
- Nid yw gofyn yn unig am eu gallu yn y Saesneg i’r rhai sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg/Cymraeg fel prif iaith yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynnig wedi eu seilio ar y syniad mai drwy’r Saesneg yn unig y mae disgwyl gwasanaethu rhai nad yw’r Saesneg/Cymraeg yn brif iaith iddynt.
Cyfle i drafod oedd y gweithdy hwn ac nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud. Bydd cyfleoedd ymgynghori eto.
