Os gweithredir cynigion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar droed ar hyn o bryd, ni fydd y cyhoedd yn gallu gweld sut mae addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu (neu’n crebachu) fesul awdurdod lleol o hyn allan. Mae data am asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol sydd wedi bod yn cael ei gyhoeddi ar wefan StatsCymru y Llywodraeth yn mynd i ddiflannu, h.y. ni fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol.
Ym mharagraff 37 y ddogfen ymgynghori (pdf) dywedir y byddant yn “rhoi’r gorau i gyhoeddi data’n rhagweithiol ar gyfer awdurdodau lleol yn y datganiad ystadegol blynyddol ar berfformiad cenedlaethol a’r tablau StatsCymru cysylltiedig.”
Yn syml, cais i’w wneud yn anodd i’r cyhoedd gael gafael yn y data yw hwn, sy’n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor o ddata agored – ac yn gwbl groes i gynllun data agored Llywodraeth Cymru (pdf) ei hun
Mae’r data am yr asesiadau mewn Cymraeg yn sail i ddau darged sy’n cael eu gosod yng nghynllun gweithredu 2017-21 strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd y Llywodraeth (pdf).
Heb ddata ar lefel awdurdod lleol ni fydd modd cadw llygad go iawn ar y cynnydd (ai peidio) at y targedau hyn. Bydd yn rhaid i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gynnwys y manylion ar lefel awdurdod lleol neu byddant yn ddiystyr. Ond prin y gellir ystyried y rheini’n ffordd addas o gyhoeddi data. (A cheisiwch chi ddod o hyd i bob un ohonynt ar y we,)
Ymatebwch erbyn diwedd mis Ionawr i ddweud wrth y Llywodraeth fod y cynnig hwn yn hollol annerbyniol. Rhaid i’r holl ddata am y Gymraeg o leiaf – y niferoedd sy’n cael eu hasesu mewn Cymraeg, a chyfanswm yr holl blant sy’n cael eu hasesu fel y gellir cyfrifio canrannau – barhau i gael ei gyhoeddi yn rheolaidd heb i rywun orfod gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth.
Dyma ffurflen ymateb ar-lein y Llywodraeth:
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/node/11291/respond-online/cy
Rhannwch y neges ymhellach os gwelwch yn dda i sicrhau na fydd amheuaeth fod y cyhoedd yn gwrthwynebu’r cynnig hwn.
I chi weld defnydd y data, edrychwch ar y dadansoddiadau sydd wedi ei gyflwyno ar Statiaith sy’n dibynnu ar y data yma. Mae rhai ohonynt isod:
http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/dilyniant_CA1Syl_CA2.html


