Cofrestriadau a dysgwyr
Ers 2011/12, mae’r nifer o gofrestriadau ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion wedi disgyn o 31,190 i 23,825 yn 2015/16, gostyngiad o 24% a’r nifer o ddysgwyr oedd yn dilyn y cyrsiau hynny wedi disgyn o 18,050 i 16,375, gostyngiad o 9%.
Cyhoeddwyd ffigurau am Raglen Dysgu Awst 2017- Gorffennaf 2018 – ar sail wahanol i’r rhai blaenorol – gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 30 Hydref 2019. Yn ôl y rheini, roedd 12,680 o ddysgwyr yn 2017/18. Roeddent wedi ymgymryd â 19,490 o weithgareddau dysgu.
Gellir cyfrif cofrestriadau ar ddwy sail: ar sail y boblogaeth sesiynol neu ar sail y boblogaeth gofrestru safonol. Defnyddir y sail gyntaf uchod.
Ffynhonnell: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/welshforadults-learners-enrolments (Cyrchwyd 10/07/2017)
Arholiadau
Safodd bron 2,000 o bobl arholiad Cymraeg i Oedolion o ryw fath yn 2009. Erbyn 2017 roedd y cyfanswm wedi disgyn i 1,211, gostyngiad o 39%. Cododd yn 2018 i 1,469, cynnydd o 21%.
Ffynhonnell: Bwletin Arholiadau Cymraeg i Oedolion 2018, CBAC (pdf) a rhifynnau blaenorol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ‘Codi golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion‘ ym mis Gorffennaf 2013. Cynhwysodd hwnnw ystadegau am y cyfnod o 2007/08 tan 2011/12. Gellir lawrlwytho’r adroddiad o http://gov.wales/docs/dcells/publications/130712-review-welsh-for-adults-cy.pdf
Cyhoeddodd Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru / Academi Hywel Teifi adroddiad ‘Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-Gymraeg‘ gan Heini Gruffudd a Steve Morris yn 2012. Ceir ystadegau mwy manwl am y cyfnod 2007/08 – 2008/09 yn hwnnw. Gellir lawrlwytho’r adroddiad o https://www.swansea.ac.uk/media/Adroddiad%20Llawn.pdf.
Wlpan
Mae Wlpan yn gwrs Cymraeg dwys a seiliwyd ar batrwm yr hyn a wnaed yn Israel i ddysgu Hebraeg.
https://cy.wikipedia.org/wiki/Wlpan
Cafodd yr Wlpan cyntaf ei drefnu yn 1974. Mae ei boblogrwydd wedi lleihau dros y blynyddoedd. Dengys y siart canlynol pa mor aml, er 2004, y chwiliwyd am y term ar Google. Mis Awst 2004 a welodd uchafbwynt y chwiliadau: y mis y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nghasnewydd.