Mae dilyniant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cyfeirio at symudiad disgyblion drwy eu hoes ysgol. Os byddant yn cychwyn mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn parhau mewn addysg cyfrwng Cymraeg dywedir bod dilyniant ac, fel arall, nad oes dilyniant.
Dilyniant o fewn y sector cynradd
Ceir dadansoddiad o ddilyniant o Gyfnod Allweddol 1 neu’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2 yma. Daw’r siart isod ohono. Mae’n cymharu’r canrannau a aseswyd mewn Cymraeg (iaith gyntaf0 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, neu’r Cyfnod Sylfaen (7 oed yn fras), â’r canrannau a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (11 oed yn fras).
Dilyniant o Gyfnod Allwedd 1/Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2, 2003-2019
Dilyniant o’r sector cynradd i’r sector uwchradd
Gweler y siartiau ar dudalen Asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol am dystiolaeth am ddilyniant hyd at Gyfnod 3.
Y sector uwchradd
Mae addysg cyfrwng Cymraeg ysgolion uwchradd yn amrywio’n fawr. Mae’r Llywodraeth yn diffinio 7 math o ysgol uwchradd yn ôl cyfrwng dysgu. Yr enwau (a’r cod) a roddir arnynt yw:
Cyfrwng Cymraeg [WM]: Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg
A Dwyieithog [AB]: Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2A
Mae o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl. Mae un neu ddau o bynciau yn cael eu haddysgu i rai o’r disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a’r llall.
B Dwyieithog [BB]: Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Category 2B
Mae o leiaf 80% o’r pynciau (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.
C Dwyieithog [CB]: Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2C
Mae 50 – 79% o’r pynciau (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.
Ch Dwyieithog [CH]: Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2Ch
Mae pob pwnc, ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg, yn cael eu dysgu i bob disgybl gan ddefnyddio’r naill iaith a’r llall.
Saesneg (ond â defnydd Sylweddol o’r Gymraeg) [EW]:
Mae 20-49 % o’r pynciau yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd.
Cyfrwng Saesneg [EM]
lle y gellir dewis dysgu un neu ddau o bynciau, o bosibl, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid yw mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog o reidrwydd yn golygu y bydd disgybl, hyd yn oed os bydd yn dilyn cwrs iaith gyntaf mewn Cymraeg iaith (y pwnc), yn astudio llawer o bynciau eraill drwy’r Gymraeg. Cafwyd tystiolaeth ynglŷn â hyn mewn ateb i
gais rhyddid gwybodaeth am faint o ddisgyblion 15 oed a safodd arholiadau TGAU drwy’r Gymraeg yn ôl pwnc, yn ysgolion uwchradd a chanol Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion yn 2013. Mae’r siart isod yn cyflwyno un dadansoddiad o’r data a gafwyd. Gellir ei ddarllen fel a ganlyn. Ar draws y gwaelod mae’r ganran o blant a safodd TGAU mewn Cymraeg (Iaith). Gwelir, er enghraifft mai 75% o ddigyblion 15 oed Ysgol David Hughes a safodd yr arholiad honno. Yn yr ysgol honno, y pwnc nesaf gyda’r niferoedd mwyaf yn ei sefyll drwy’r Gymraeg (gan ddiystyru Cymraeg Llên) oedd Mathemateg: safodd 33% o’r disgyblion yr arholaid hwnnw. Y niferoedd y tu ôl i’r canrannau hynny oedd 152 yn sefyll Cymraeg a 68 yn sefyll yr arholiad Mathemateg. Mae’n bosibl bod rhai disgyblion ddim wedi sefyll Mathemateg drwy’r Gymraeg ond wedi sefyll arholiad mewn pwnc arall. Ond mae’r 33% yn dweud ei fod yn bosibl nad yw bron hanner y disgyblion Cymraeg yn dysgu’r un pwnc arall drwy’r Gymraeg.
% o blant 15 oed yn sefyll TGAU drwy’r Gymraeg, ysgolion Môn, Gwynedd, Ceredigion 2013