Daeth data’r map isod o Fy Ysgol Leol ym mis Ionawr 2018. Mae’n dangos pob ysgol a’r icon yn adlewyrchu categori cyfrwng dysgu’r ysgol. (Nid yw ysgolion meithrin nac ysgolion arbennig wedi eu categoreiddio’n ôl iaith). Os cliciwch ar icon cewch weld manylion yr ysgol. Mae’r rheini’n cynnwys canran lleiafrifoedd ethnig (pawb ond Gwyn – Prydeinig – ymhlith y disgyblion o 2011 tan 2017.
Gellir lawrlwytho pdf map categori ysgolion cynradd a chanol Ionawr 2017 yma a fersiwn ysgolion cynradd 2014 yma.
Cyfrwng Cymraeg
Cyfrwng Saesneg
Trawsnewidiol [cynradd]
Dwy ffrwd [cynradd]
Cyfrwng Saesneg yn bennaf ond â defnydd sylweddol o’r Gymraeg
Dwyieithog (Categori A/B/C) [Uwchradd]