Arholiadau Safon Uwch Cymraeg

Cafodd canlyniadau arholiadau Safon Uwch Haf 2018 (pdf) eu cyhoeddi ar Ddydd Iau 16 Awst 2018. Mae’r siart isod yn cynnwys y canlyniadau hynny.

O’u cymharu â 2017, bu gostyngiad yn y niferoedd yn sefyll Safon Uwch mewn Cymraeg ail iaith gyntaf ond cynnydd yn y nifer iaith gyntaf. Safodd 252  yr arholiad iaith gyntaf yn 2018, o’i gymharu â 233 yn 2017, a 284 yr arholiad ail iaith i’w gymharu â 333 yn 2017.

Nifer a safodd arholiad Safon Uwch Cymraeg hyd at 2018

Nifer a safodd arholiad Safon Uwch Cymraeg hyd at 2018

Deilliant 5 Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth oedd y dylai fod ‘Mwy o ddysgwyr â sgiliau iaith uwch yn y Gymraeg’ ac mae targedau wedi eu gosod ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf ac ail-iaith. Dangosir y canlyniadau hyd at 2014, a’r targedau, yn y siart isod.

Niferoedd Safon Uwch Cymraeg fel % o TGAU, hyd at 2014

Niferoedd Safon Uwch Cymraeg fel % o TGAU, hyd at 2014

Ffynhonnell data Safon Uwch 2015: Canlyniadau Safon Uwch CBAC 2015 (pdf)