Asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol

Y ganran o ddisgyblion a aseswyd mewn Cymraeg

Mae’r siart isod yn diweddaru siart a gynhwyswyd yn y ‘Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg (pdf)‘ a gyhoeddwyd yn 2012. Yn ogystal â dangos y ganran a aseswyd mewn Cymraeg ym mhob cyfnod allweddol, mae hefyd yn dangos y targedau perthnasol a gynhwyswyd yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru (pdf).

Gwelir bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei thargedau am 2015. Am blant 7 oed y targed oedd y byddai 25% yn cael eu hasesu mewn Cymraeg yn 2015: 22.2% oedd y ganran a gafwyd, canran is nag a gafwyd yn 2014 a 2013. Am blant Blwyddyn 9 (14 oed) 19% oedd y targed: 17.8% a gafwyd.

Yn 2019, aseswyd 22.8% ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen mewn sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg, i fyny o 22.2% yn 2018.

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2019

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2019

Rhoddodd y Llywodraeth y gorau i gyhoeddi data ar lefel awdurdod lleol ar ôl 2017.  Cafwyd y ffigurau am 2018 a 2019 a ddefnyddir yn y siart isod drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth. Fe drafodir hynny yma. Sylwer nad yw’r siartiau hyn yn adlewyrchu dilyniant yn gywir. (Mae dilyniant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cyfeirio at symudiad disgyblion drwy eu hoes ysgol.) Am drafodaeth o hynny gweler https://statiaith.com/blog/addysg/dilyniant/

Rhoddir dadansoddiad manwl ar ddilyniant o’r Cyfnod Sylfaen at Gyfnod Allweddol 2 hyd at 2019 yn http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/dilyniant_CA1Syl_CA2.html

% a aseswyd mewn Cymraeg: asesiadau cyfnodau allweddol 1/Sylfaen, 2 a 3, yn ôl AALl, 1999-2019

% a aseswyd mewn Cymraeg: asesiadau cyfnodau allweddol 1/Sylfaen, 2 a 3, yn ôl AALl, 1999-2019