Asesiadau Cyfnod Allweddol 2

Cynyddodd y ganran a aseswyd gan athrawon (mewn ysgolion a gynhelir) mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (tua 11 oed) o 0.1 pwynt canran o 2018 i 2019, hynny yw, aseswyd 21.4% yn 2018 a 21.5% yn 2019. Cynyddodd y ganran mewn 16 awdurdod ond gostyngodd yn y 6 awdurdod arall.

Yng Nghonwy y gwelwyd y cynnydd mwyaf, o 22.9% i 25.3% (292 disgybl), + 2.4 pwynt canran (36 o ddisgyblion). Yn anffodus, ar sail asesiadau ddiwedd y Cyfnod Sylfaen bedair blynydd ynghynt yn 2015, gellid fod wedi disgwyl fymryn yn well. Bryd hynny, yn 2015 26.5% (305 o ddisgyblion) a aseswyd mewn Cymraeg. 

Yng Nghaerffili y gwelwyd y gostyngiad mwyaf, o 17.3% yn 2018 i 15.4%, 1.8 pwynt canran, 19 yn llai o ddisgyblion nag a aseswyd yn 2018.

Canran a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Canran a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Mae union yr un data’n cael ei siartio isod hefyd ond bod graddfa’r echelin-y yn amrywio er mwyn amlygu’r newidiadau o fewn yr awdurdodau.

Canran a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Canran a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Dyma fersiwn rhyngweithiol o’r siart uchod. Gellir clicio ar gyfres yn yr allwedd i’w chuddio neu ei hamlygu.

Nifer a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Nifer a aseswyd mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 1999-2019

Ffynhonnell: statscymru.llyw.cymru a Chais Rhyddid Gwybodaeth.

Defnyddir y data yma o dan y Trwydded Llywodraeth Agored.