Aseswyd 6,068 o ddisgyblion mewn Cymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (Blwyddyn 9, yn 14 oed yn fras) yn 2019, sef 18.5% o’r holl ddisgybion (mewn ysgolion a gynhelir) a aseswyd, cynnydd o 2 bwynt canran ers 2018.
Cynyddodd y ganran a aseswyd mewn 8 awdurdod a gostyngodd mewn 9, heb gyfrif Torfaen. Dychwelodd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd, ganlyniadau CA3 am y tro cyntaf yn 2018 a dyna eglurhad dros ostyngiad ymddangosiadol Torfaen, gan yr arferai disgyblion o Gasnewydd fynychu Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen.
Yn Ynys Môn y cafwyd y cynnydd mwyaf, o 69.9% i 72.5%, 2.6 pwynt canran. Ac eithrio Torfaen (gweler uchod), cafwyd y gostyngiad mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o 6.8% i 6.2%, -0.6 pwynt canran.
Mae’r siart canlynol yn dangos y canrannau a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl lleoliad yr ysgol. Ni ddangosir dim ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Sir Fynwy gan nad oes ysgolion sy’n dysgu Cymraeg iaith gyntaf ynddynt. Mae disgyblion y siroedd hynny’n teithio i ysgolion mewn awdurdodau cyfagos. Mae agor ysgol newydd mewn un awdurdod yn gallu effeithio ar y ganran a ddangosir mewn awdurdod cyfagos, e.e. effeithiodd agor Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar ganrannau Caerdydd, ac yn 2019, agor Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd ar ganran Torfaen.
Mae graddfa wahanol yn cael ei defnyddio ar yr echelin-y ar y chwith yn y siart blaenorol. Yn y siart canlynol, defnyddir yr un raddfa ar gyfer pob ardal.
Dyma’r un data eto ond mewn siart rhyngweithiol:
Mae’r siart canlynol yn dangos y niferoedd a aseswyd yn hytrach na’r canrannau.
Ffynhonnell: statscymru.llyw.cymru a Chais Rhyddid Gwybodaeth.
Defnyddiwyd data agored o dan Drwydded Llywodraeth Agored i gynhyrchu’r siartiau ar y tudalen hwn.