Mae’r siart isod yn dangos y newid yn nifer yr ysgolion Cymraeg ers 1993/94. Mae’n diweddaru siart a gynhwyswyd yn ‘Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg (pdf)‘ a gyhoeddwyd yn 2012.
Yn Ionawr 2018 roedd 368 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, 29% o’r holl ysgolion cynradd. I’w cymharu, yn Ionawr 2013 roedd 403 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, 29% o’r holl ysgolion cynradd eto. Yn y flwyddyn honno crëwyd math newydd o ysgol i Gymru, sef ysgol ganol, sy’n cynnwys plant oed cynradd ac uwchradd. Roedd un o’r ysgolion canol hynny, yn un gyfrwng Cymraeg. Erbyn Ionawr 2018 roedd 3 ysgol ganol cyfrwng Cymraeg.
Mae’r siart nesaf, eto’n diweddaru un a gynhwyswyd yn ‘Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg (pdf)‘, yn dangos yr un data ond ar ffurf canran.
Ffynhonnell y data ers 2003/04: Ysgolion cynradd yn ôl categori iaith (dolen allanol)
Mae map sy’n dangos categori iaith yr ysgolion unigol yma.
Mae’r siart nesaf yn dangos dosbarthiad ysgolion cynradd yn ôl categori o fewn awdurdod lleol.
Mae’r siart nesaf yn dangos y niferoedd y mae’r siart uchod wedi ei seilio arnynt.