Mae’r ddau siart isod yn diweddaru siartiau a a gynhwyswyd yn ‘Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg (pdf)‘ a gyhoeddwyd yn 2012.
Yn 2012/13 cyflwynwyd math newydd o ysgol i Gymru, sef ysgol ganol, sy’n cynnwys plant oed cynradd ac uwchradd. Mae’r siartiau isod wedi eu seilio ar ddata ysgolion cynradd yn unig, er bod 970 o blant 5 i 10 oed (oed cynradd arferol) yn yr ysgolion canol hefyd yn Ionawr 2015.
Yn 2016/17 roedd 7.5% (15,514) o blant 5 oed a throsodd yr ysgolion cynradd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl ac yn ei siarad gartref, i lawr o’r 7.8% a gafwyd yn Ionawr 2012, y ganran uchaf a gofnodwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Gostyngodd y ganran eto yn 2017/18 i 7.3% (15,185).
Roedd 29,580 (14.3 y cant) o’r plant cynradd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn Ionawr 2017. Gostyngodd y nifer (a’r ganran) yn 2017/18 i 28,930 (13.9%).
Ffynonellau: Cais Rhyddid Gwybodaeth Ed355
Cais Rhyddid Gwybodaeth ATISN9767
Cais Rhyddid Gwybodaeth ATISN11534
Cais Rhyddid Gwybodaeth ATISN12592
Mae data a roddwyd mewn ateb i gais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru’n dangos nad oedd 53% o ddisgyblion ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg (Ionawr 2013) yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, ym marn eu rhieni. 7.7% oedd y ganran gyfatebol ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae’r siartiau hyn yn dangos rhagor o fanylion.