Lleiafrifoedd ethnig

Yn Ionawr 2017 roedd 35 ysgol gynradd lle roedd y mwyafrif o’r disgyblion yn dod o leiafrifoedd ethnig. Mae ‘o leiafrifoedd ethnig’ yn golygu unrhyw ethnigrwydd heb law am “Gwyn-Prydeinig”. Mae’r tabl isod yn dangos y niferoedd o 2011 tan 2017. Amcangyfrifon yw’r rhain gan ddefnyddio data o wefan Fy Ysgol Leol Llywodraeth Cymru. Dydy’r canrannau ddim ond yn cael ei cyhoeddi os nad oes perygl i gyfrinachedd, h.y. lle mae digon o ddisgyblion i sicrhau na ddatgelir dim am unigolion.

Nifer ysgolion cynradd â mwyfrif y disgyblion yn lleiafrifoedd ethnig (h.y. pawb ond ‘Gwyn – Prydeinig’)

blwyddyn Abertawe Caerdydd Casnewydd Gwynedd Powys Sir Gaerfyrddin Wrecsam
2011 2 15 3 1 .. 1 ..
2012 2 18 3 1 .. 1 ..
2013 1 18 4 1 .. 2 1
2014 1 19 4 1 1 2 ..
2015 1 19 4 1 1 2 3
2016 1 23 4 1 .. 1 2
2017 2 24 4 1 .. 1 3

O’r ysgolion cynradd, gan Ysgol Gynradd Grangetown yng Nghaerdydd oedd y ganran uchaf o ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (96%) yn Ionawr 2017. Ysgol Hirael oedd yr ysgol categori cyfrwng Cymraeg â’r ganran uchaf: 33.3%.

83.7% oedd y ganran uchaf ymhlith yr ysgolion uwchradd ac yn Ysgol Uwchradd Fitzalan oedd honno. 10% oedd y ganran uchaf ymhlith ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd, y cafwyd honno.

Mae’r map isod yn dangos ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig, a lliw’r nod yn adlewyrchu’r ganran o ddisgyblion a oedd yn lleiafrif ethnig yn ôl Cyfrifiad yr Ysgolion yn 2017.

Gwyn - dim data ar gaelDim data ar gael: naill ai nad oedd lleiafrif ethnig, neu na chafwyd data gan yr ysgol.
Melyn - Llai na 33.3% o leiafrifoedd ethnigLlai na 33.3% o leiafrifoedd ethnig
Gwyrdd bach - rhwng 33.3 a 66.6% o leiafrifoedd ethnigRhwng 33.3 a 66.6% o leiafrifoedd ethnig
Gwyrdd mawr - dros 66.6% o leiafrifoedd ethnigDros 66.6% o leiafrifoedd ethnig

Os cliciwch ar nod, cewch weld data’r ysgol o 2011 hyd at 2017.

Mae’r siart canlynol yn dangos cyfresi am yr ysgolion uwchradd hynny lle roedd dros ganran y lleiafrifoedd ethnig dros 33.3% y cant yn Ionawr 2017.

Ffynhonnell: Fy Ysgol Leol

Defnyddiwyd data Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd o dan Drwydded Llywodraeth Agored.