Yn adroddiad blynyddol 2013-14 y Llywodraeth ar ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg cyfeirwyd ar dudalen 15 at ‘Arolwg sgiliau iaith Gymraeg’ a gynhaliwyd yn haf 2013 ‘er mwyn llunio gwaelodlin o sgiliau Cymraeg ymarferwyr’. Ni chyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg hwn. Gwnaethpwyd cais Rhyddid Gwybodaeth i ofyn am y data a derbyniwyd peth o’r hyn y gofynnwyd amdano ar 5 Medi 2014. Dyma ddadansoddiad o ran ohono.
Gofynnwyd i ysgolion nodi sgiliau Cymraeg eu staff – athrawon a chynorthwyr dysgu ar wahân – gan ddweud faint oedd ganddynt yn y categorïau canlynol. Roedd aelod o’r staff i fod i gael ei gyfrif mewn un categori’n unig.
Lefel | Disgrifiad |
0 | Dim sgiliau iaith Gymraeg |
1 | Yn gallu deall rhai ymadroddion syml pob dydd a’u defnyddio gyda disgyblion |
1a | Yn gallu deall rhai ymadroddion syml pob dydd a’u defnyddio gyda disgyblion ac am ddilyn cwrs i ddechreuwyr |
2 | Yn gallu deall rhywfaint o Gymraeg am faterion bob dydd wrth siarad â’i disgyblion |
2a | Yn gallu deall rhywfaint o Gymraeg am faterion bob dydd wrth siarad â’i disgyblion ac am dderbyn hyfforddiant i’w galluogi i ddefnyddio Cymraeg mewn gwersi |
3 | Yn gallu siarad Cymraeg wrth drafod pynciau cyfarwydd gyda’i disgyblion |
3a | Yn gallu siarad Cymraeg wrth drafod pynciau cyfarwydd gyda’i disgyblion ac am dderbyn hyfforddiant i ddatblygu ei sgiliau iaith Cymraeg |
4 | Yn gallu siarad, deall ac ysgrifennu Cymraeg wrth weithio gyda’i disgyblion |
4a | Yn gallu siarad, deall ac ysgrifennu Cymraeg wrth weithio gyda’i disgyblion ac am fynychu cwrs gloywi iaith |
4b | Yn gallu siarad, deall ac ysgrifennu Cymraeg wrth weithio gyda’i disgyblion ac am dderbyn hyfforddiant ar fethodolegau dysgu cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg |
5 | Rhugl a dim anghenion hyfforddiant iaith Gymraeg neu methodoleg |
Nid ymatebodd pob ysgol ac ymddengys na wiriodd y Llywodraeth y data’n ofalus chwaith. Adroddwyd ar 12,648 o athrawon, sef 93% o’r nifer oedd mewn ysgol cynradd yn Ionawr 2013, mewn 1,293 o ysgolion cynradd (o’u cymharu â’r 1,357 o ysgolion cynradd oedd ar agor yn Ionawr 2013). Gan gymharu’r nifer o staff a gynhwyswyd yn yr ymatebion â’r nifer o staff oedd yn yr ysgolion yn Ionawr 2013 ar lefel awdurdod lleol gwelir bod 5 awdurdod wedi adrodd ar fwy o staff nag oedd ganddynt yn Ionawr 2013. Yn yr eithaf arall, ar lai nag 80% o’u staff yr ymatebodd awdurdod Blaenau Gwent a Chaerdydd, fel y dangosir yn y siart isod.
Mae’r siartiau canlynol wedi eu seilio ar yr ymateb crai, heb geisio cywiro am y diffyg/gormodedd o athrawon o gwbl. Yn achos yr awdurdodau lle roedd y gyfradd ymateb o dan 100%, mae’n bosibl, os oedd y rhai a atebodd yn gynrychioladol o’r rhai nad atebodd, fod y dosbarthiad o sgiliau a ddangosir yn y siart canlynol yn ddarlun teg o’r dosbarthiad o sgiliau ymhlith yr athrawon i gyd. Mae’n anodd gwybod pa mor ddibynadwy y mae canlyniadau’r awdurdodau lle adroddwyd ar fwy o athrawon nag sydd yn ysgolion yr awdurdod. Mae’n debyg bod elfen o gyfrif dwbl ynddynt.
Mae’r siart uchod wedi ei seilio ar y niferoedd sydd i’w gweld yn y siart canlynol. Roedd cyfanswm o 3,303 o athrawon, 26% o’r cyfan, yn dweud eu bod yng nghategori 5, h.y. eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae hwn yn cymharu’n eithaf da gyda chanlyniadau Cyfrifiad yr Ysgolion yn Ionawr 2013 pan gafwyd bod 3,462 o athrawon cynradd a oedd naill ai’n dysgu Cymraeg iaith gyntaf, neu’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n gymwys i’w wneud. (Ffynhonnell: StatsCymru). Yn anffodus, oherwydd y gorgyfrif ymddangosiadol mewn rhai awdurdodau a’r tangyfrif mewn eraill, ni ellir dibynnu ar y ffigurau i adlewyrchu’r sefyllfa go iawn.
Mae’r siart nesaf yn dangos y niferoedd oedd yn dymuno derbyn hyfforddiant pellach. (Sylwer ni ddefnyddir yr un lliwiau â’r siartiau uchod). Fel gyda’r siart blaenorol, oherwydd y gorgyfrif ymddangosiadol mewn rhai awdurdodau a’r tangyfrif mewn eraill, ni ellir dibynnu ar y ffigurau i adlewyrchu’r sefyllfa go iawn.
Roedd ysgolion uwchradd yn cael eu cynnwys yn yr arolwg hefyd ond cafwyd ymateb isel: dim ond ar gyfer 52 ysgol y cafwyd data. Roedd 213 ysgol uwchradd yn Ionawr 2013 felly llai na chwarter ymatebodd.
Holwyd hefyd am sgiliau staff cynorthwyol yn yr arolwg, ond erys y rheini heb eu dadansoddi gan Statiaith.