Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd ac Ynys Môn

Rhwng Medi a Thachwedd 2013 cynhaliwyd  arolwg ar ran Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg, Cyngor Gwynedd. Cafwyd cefnogaeth ariannol ychwanegol gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru. Eglurir yn yr adroddiad llawn (pdf) sut yr aethpwyd ati i ddewis sampl ar gyfer yr arolwg post:

“3.4 Fe wnaethom samplu tai newydd a oedd â chaniatadau cynllunio wedi eu cwblhau dros y cyfnod 2007-2011. Roedd modd adnabod pa rai o’r rheini oedd wedi eu dynodi yn dai
fforddiadwy.
3.5 Roedd tai a oedd wedi eu gwerthu fel arall yn ystod 2008-2012 o fewn y 10 ward o dan
sylw hefyd wedi eu cynnwys o fewn y sampl.
3.6 Yn ogystal, fe wnaethom gynnwys cyfran (30%) o’r tai nad oedd wedi eu gwerthu dros y
cyfnod hwnnw yn y 10 ward o fewn y sampl.” (tud. 11)

Ni chafodd y 10 ward  y cyfeirir atynt yn 3.5 a 3.6 eu dewis ar hap ond yn hytrach fe’u dewiswyd yn bwrpasol (adran 3.3, tud.10) gan anelu i ddewis wardiau a allai fod yn debyg i rai eraill. Hwyrach eu bod ond ni ellir eu hystyried yn gynrychioladol o’r holl wardiau. Nid sampl clwstwr clasurol mo hwn felly.

Mae’r holl dai a oedd â chaniatâd cynllunio wedi eu cwblhau dros y cyfnod 2007-11 yn un haenen o holl dai Gwynedd a Môn. Mae’n bosibl felly y gallai’r atebion a gafwyd gan y rheini fod yn gynrychioladol o’r holl dai a oedd â chaniatâd cynllunio wedi eu cwblhau dros y cyfnod 2007-11.

Mae 3.5 a 3.6 yn egluro bod 3 haenen wedi eu diffinio o fewn y 10 ward:

  1. tai newydd a oedd â chaniatadau cynllunio wedi eu cwblhau dros y cyfnod 2007-2011 (rhan o’r sampl ehangach gan i’r rhain gael eu samplo drwy’r ddwy sir);
  2. tai a oedd wedi eu gwerthu fel arall yn ystod 2008-2012;
  3. tai nad oedd wedi eu gwerthu dros y cyfnod hwnnw.

I fedru cyfrifo amcangyfrifon â dilysrwydd ystadegol ar gyfer y 10 ward unigol, byddai angen pwysoli’r ymatebion i geisio sicrhau y byddai cyfansoddiad yr amcangyfrifon yn adlewyrchu cyfansoddiad tai’r ward. Ni wnaed hynny: y cyfan a wnaed oedd adio’r rhai a ymatebodd, waeth a ddaeth yr ymateb o haenen 1, 2 neu 3.

Wedyn i lunio amcangyfrifon ar gyfer ‘Gwynedd’ ac  ‘Ynys Môn’, y cyfan a wnaed oedd adio amcangyfrifon am y wardiau a oedd o fewn yr awdurdod perthnasol (6 yng Ngwynedd: 2 yr un yn Arfon, Dwyfor a Meirionnydd, 4 ym Môn. Mae 71 ward yng Ngwynedd i gyd a 40 ym Môn). Am y Parc, adiwyd yr ymatebion a ddaeth o gyfeiriadau oddi fewn i’r Parc Cenedlaethol, ond eto heb yr un elfen o bwysoli.

Ar ben hynny, dywedir: “3.10 Roedd yr holiadur ar-lein ar gael i bawb, felly roedd cyfle hefyd i aelwydydd eraill gymryd rhan yn yr arolwg. Golyga hyn fod y canlyniadau terfynol yn cynnwys aelwydydd nas targedwyd fel rhan o’r sampl uchod.” Camgymeriad yw tybio bod derbyn ymatebion o’r fath o gymorth: i’r gwrthwyneb,  byddant yn dueddol o waethygu’r gogwydd ymateb.

I lunio amcangyfrifon dibynadwy o’r ymatebion i gynllun sampl cymhleth fel hwn rhaid ystyried yn ofalus sut i bwysoli’r ymatebion unigol fel y bydd y canlyniadau’n gynrychioladol o holl dai yr ardal – os bwriedir cyflwyno’r canlyniadau gan honni eu bod yn gynrychioladol. Yn anffodus, cyfeddyf Cyngor Gwynedd na phwysolwyd yr ymatebion o gwbl. Er mor fanwl yr adroddiad, ni ellir, yn anffodus, hawlio fod iddo ddilysrwydd ystadegol.

Mae problem fethodolegol arall pan ystyrir y canlyniadau am y Gymraeg. Roedd yr holiadur wedi ei anelu at y cartref ond gofynnodd y cwestiynau am iaith am ateb o ran yr unigolion yn y cartref. “Ticiwch un blwch yn unig ar gyfer pob person” oedd y cyfarwyddyd. Mae’n bosibl iawn mai un person yn y cartref atebodd ar gyfer pawb felly. (Yn ward Cyngar er enghraifft – y ward lle cafwyd y nifer uchaf o ymatebion gan gartref (157)  – cyflwynir canlyniadau am iaith fel ymatebion 364 o bobl.) Gallai hynny fod yn dderbyniol ar gyfer cwestiwn ffeithiol tebyg i “Ym mha sector ydych chi’n gweithio?”. Nid yw’n dechneg dderbyniol i gasglu atebion i gwestiynau  tebyg i “Pa mor bwysig yw’r Gymraeg i chi?”,”Pa mor aml fyddwch yn defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd canlynol?” neu “Yn eich gwaith, pa iaith sy’n cael ei ddefnyddio yn bennaf?”