Cyflwynir yma rai canlyniadau sy’n deillio o brosiect ymchwil a ddefnyddiodd Astudiaeth Hydredol y SYG. Mae’r Astudiaeth yn cysylltu cofnodion sampl anhysbys o 1% o boblogaeth Cymru (a Lloegr) ar draws y cyfrifiadau ers 1971.
Cyhoeddwyd dadansoddiad o gyfrifiadau 1971-2001 o’r blaen yn Population Trends (Gaeaf 2005, 122). 2005. (pdf, 1MB)
Mae’r siart isod yn dangos canlyniadau Cyfrifiadau 2001 a 2011 ond dangosir canlyniadau Cyfrifiad 2001 gan ddefnyddio oed y bobl yn 2011. Er enghraifft, yn y golofn gyntaf dangosir 37.2% , y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 ymhlith plant 3 i 14 oed yn y flwyddyn honno ond a fyddai’n 13 i 24 oed yn 2011. Ni fyddai pawb o’r rhai oedd wedi eu cynnwys yn 3 i 14 oed yng Nghyfrifiad 2001 wedi eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2011. Bydd rhai wedi symud o Gymru a bydd rhai wedi marw. Ar y llaw arall, bydd rhai eraill o’r un oed wedi symud i Gymru erbyn 2011 a bydd y rheini wedi eu cynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2011 yn y grŵp oedran 13-24.
Mae’r siart nesaf yn dangos y newid rhwng canlyniadau Cyfrifiadau 2001 a 2011 – y gellir ei gyfrifo o’r siart blaenorol – ac hefyd y newid a ddangosodd yr Astudiaeth Hydredol. Dim ond cofnodion 1% o’r boblogaeth sydd wedi eu cynnwys yn yr Astudiaeth Hydredol ond gan eu bod wedi eu cysylltu ar draws y cyfrifiadau gellir cyfrifo’r ganran ymhlith y sampl oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 a’r ganran ymhlith union yr un garfan o bobl yn 2001. Dim ond pobl a oedd yn byw yng Nghymru yn 2011 a 2001 a gynhwysir, gan na fyddai pobl oedd yn byw yn Lloegr yn 2011 wedi ateb cwestiwn am y Gymraeg.
Mae’r cyfrifiad yn dangos mwy o newid yn y ganran na’r hyn a ddangosir gan yr Astudiaeth Hydredol. Y newid yn y boblogaeth, hynny yw mewnfudo, sy’n egluro’r gwahaniaeth.
Newid net yw newid uchod yr astudiaeth hydredol, hynny yw, ymhob carfan newidiodd rhai eu statws. Cofnododd rhai nad oeddynt yn gallu siarad Cymraeg yn y cyfrifiad blaenorol eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 a chofnododd rhai eraill a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 nad oeddynt yn gallu ei siarad yn 2011. Y balans yw’r net newid. Fe’i dangosir yn y siart isod.
I egluro sut y mae’r rhifau yn y siart uchod wedi eu cyfrifo, edrycher ar grŵp oedran 25 i 28 oed 2011 lle dangosir newid net o -15 pwynt canran. Mae’r tabl canlynol yn dangos y niferoedd a gafwyd yn yr astudiaeth hydredol.
Gallu siarad Cymraeg yn 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Yn gallu siarad Cymraeg | Ddim yn gallu siarad Cymraeg | |||
Gallu yn 2001 | Yn gallu siarad Cymraeg | 180 | 175 | |
Ddim yn gallu siarad Cymraeg | 25 | 618 |
Nid oedd 175 o’r rhai a allai siarad Cymraeg yn 2001 yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011 ond roedd 25 o’r rhai na allai siarad Cymraeg yn 2001 yn gallu ei siarad erbyn 2011. Y newid net felly oedd -150. Fel canran o’r cyfanswm o 998 o bobl, dyna newid net o -15 pwynt canran.
Gwelwyd patrwm gwahanol rhwng 1991 a 2001.
(Yn anffodus, ni rennir y grŵp oedran 25 i 34 oed yn y ddau siart nesaf.)
Mae’r siart nesaf yn dangos y newid ar draws 4 pâr o gyfrifiadau, o 1971-81 hyd at 2001-11, gan ddefnyddio cymarebau ods.
Cyfrifir log y gymhareb ods ar siarad Cymraeg fel a ganlyn, gan ddefnyddio ffigurau’r tabl uchod ar gyfer y grŵp oed 25-28 yn 2011 i roi enghraifft:
Ods ar siarad Cymraeg yn 2011, siaradwyr Cymraeg 2001: 180/175. (Hynny yw, ychydig yn fwy na hanner siaradwyr Cymraeg 15-18 oed yn 2001 oedd yn dal i honni eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011.)
Ods ar siarad Cymraeg yn 2011, siaradwyr di-Gymraeg 2001: 25/618
Cymhareb ods: (180/175) / (25/618) = 25.426
log(e) y gymhareb = 3.236
Mae defnyddio cymhareb yr ods fel hyn yn fodd o gymharu tuedd siaradwyr Cymraeg i gadw eu gallu yn y Gymraeg â thuedd ymhlith y rhai di-Gymraeg i ddysgu’r Gymraeg. Sylwer nad yw’r gymhareb ods ynddi ei hun yn rhoi unrhyw arwydd ynglŷn â’r newid net. Mae hynny’n dibynnu nid yn unig ar yr ods ymhlith y siaradwyr Cymraeg a’r rhai di-Gymraeg ond hefyd ar eu niferoedd.
Dyma rai enghreifftiau o sut y gall y gymhareb newid:
- Pe bai 1 o bob 10 o’r siaradwyr Cymraeg yn colli’r Gymraeg ac 1 o bob 50 o’r rhai di-Gymraeg yn dysgu’r Gymraeg y gymhareb ods fyddai (9/1)/(1/49) = 441, a’r log yn hafal i 6.1.
- Pe bai 1 o bob 20 o’r siaradwyr Cymraeg yn colli’r Gymraeg ac 1 o bob 20 o’r rhai di-Gymraeg yn dysgu’r Gymraeg y gymhareb ods fyddai (19/1)/(1/19) = 361, a’r log yn hafal i 5.9.
- Pe bai 1 o bob 10 o’r siaradwyr Cymraeg yn colli’r Gymraeg ac 1 o bob 10 o’r rhai di-Gymraeg yn dysgu’r Gymraeg y gymhareb ods fyddai (9/1)/(1/9) = 81, a’r log yn hafal i 4.4.
Os yw’r ods ar siarad Cymraeg ymhlith y siaradwyr Cymraeg yn gostwng, er enghraifft o 9:1 i 6:4, a’r ods ymhlith y di-Gymraeg yn ddigyfnewid, gostwng wna’r gymhareb, a log y gymhareb.
Gwelir fod patrwm o newid rhwng 1981-91 yn eithaf tebyg i batrwm 1971-81 ond bod awgrym o newid yn y grŵp oed ieuengaf. Mae newid mwy sylweddol rhwng 1981-91 a 1991-2001, heblaw ymhlith rhai 25-28, 45-64 a 65+. Cyflwynwyd y Gymraeg fel ail iaith yn bwnc sylfaen yn y cwricwlwm cenedlaethol gan Ddeddf Ddiwygio Addysg 1988 ac hyd yn oed erbyn 1991 roedd wedi arwain at dwf sylweddol yn y nifer o blant oedd yn dysgu Cymraeg. Cyrhaeddodd effaith y ddeddf ei anterth yn 2001 – yn yr ystyr fod y Gymraeg yn cael ei dysgu ym mron pob ysgol o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 11 (disgyblion 15-16 oed) erbyn hynny. (Gweler: Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg (pdf).) Erbyn 2011 felly roedd llawer, er nad y cyfan, o’r rhai 25-28 hefyd wedi profi dysgu’r Gymraeg yn ail iaith (ran amlaf) yn yr ysgol ddeng mlynedd yn gynharach, a’r gostyngiad yn y gymhareb ods o’i chymharu â 1991-2001 yn adlewyrchu’r ffaith fod gafael ar yr iaith llawer ohonynt yn 2001 yn wan, fel ag yr oedd ymhlith plant 3-14 oed yn 1991.
Mae’r llinellau o gwmpas pob pwynt yn dangos cyfwng hyder 95% o gwmpas y pwynt. Gan mai sampl yw sail niferoedd yr Astudiaeth Hydredol, ni allwn ond amcangyfrif yr ods. Gallai’r ods fod yn wahanol yn y boblogaeth gyfan ac mae hyd y llinell am bob pwynt yn dweud gwir werth yr ods yn mynd i fod o fewn hyd y llinell 95% o’r amser.
Mae’r siart isod yn dangos ffigurau’r ddau ryw ar wahân. Mae patrwm y ddau’n weddol debyg ond tuedda cymhareb y merched o dan 35 oed fod yn is na chymhareb y dynion, gan adlewyrchu’r duedd i ferched honni’n fwy na bechgyn eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl ei dysgu fel ail iaith yn yr ysgol.
Casgliad
Nid oedd y gallu i siarad Cymraeg yn 2001 yn allu mor gadarn ac oedd yn y cyfrifiadau blaenorol. Er enghraifft, dim ond 56.1% o siaradwyr Cymraeg 3 i 14 oed 2001 oedd yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011. 72.4% oedd y ganran gyfatebol rhwng 1991 a 2001 a honno yn ei thro yn is na’r 79.3% a gafwyd rhwng 1981-1991 a’r 79.5% a gafwyd rhwng 1971-81.
Er hynny, nid yw’r golled hon yn egluro’r gostyngiad a welwyd yng nghanlyniad Cyfrifiad 2011 ar gyfer y grŵp oedran yma yn llawn. Mewnfudo yw’r elfen arall oedd yn gyfrifol am hynny.
- Cydnabyddir yn ddiolchgar ganiatâd y Swyddfa Ystadegol Gwladol i ddefnyddio’r Astudiaeth Hydredol, fel ag y cydnabyddir y cymorth a gafwyd gan staff CeLSIUS. Cefnogir CeLSIUS drwy raglen Cyfrifiad y Boblogaeth yr ESRC (Cyf. Gwobr: ES/K000365/1). Yr awdur yn unig sy’n gyfrifol am ddehongliad y data.
- Nid yw defnydd data Astudiaeth Hydredol y SYG yn y gwaith hwn (Prosiect 30165) yn awgrymu bod y SYG yn ardystio dehongliad na dadansoddiad y data.