Mae adroddiadau blynyddol Llywodraeth Cymru ar strategaeth y Gymraeg, 2012-17, Iaith fyw: iaith byw, yn cynnwys nifer o ddangosyddion.
Mae dangosyddion Maes strategol 5: Gwasanaethau Cymraeg yn cynnwys rhai gan y Ganolfan Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Mae siart canlynol yn dangos y niferoedd yn sefyll prawf gyrru.
Ffynhonnell: Asiantaeth Safonau Gyrru/ Adroddiad blynyddol 2015-61 Strategaeth y Gymraeg 2012-17 Iaith fyw: iaith byw
Nodiadau:
(a) Dim ond yn cynnwys canolfannau prawf yng Nghymru heblaw am brofion theori yn Gymraeg sy’n cynnwys profion theori yn Gymraeg
(b) Mae profion ymarferol Saesneg ar gyfer 2015-16 yn cynnwys holl ganolfannau prawf yng Nghymru.
Cyn 2015-16 mae profion ymarferol Saesneg ond yn cynnwys canolfannau prawf lle mae o leiaf un prawf ymarferol wedi ei gynnal yn Gymraeg.
Yn 2015-16, safodd 51 o bobl y prawf damcaniaeth drwy’r Gymraeg, 0.08% o’r cyfan. Mewn cymhariaeth, yn Ionawr 2016, roedd 2,855 o blant yn ngrŵp blwyddyn 13 mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, 23% o’r holl blant yn y grŵp blwyddyn hwnnw mewn ysgolion uwchradd.