Radio Cymru

Mae’r siart isod yn dangos y nifer o oedolion a oedd yn gwrando ar Radio Cymru am o leiaf 5 munud mewn wythnos arferol, y mesur a elwir yn ‘Cyrhaeddiad wythnosol’. 110 o filoedd oedd y cyrhaeddiad wythnosol a adroddwyd ar ddiwedd chwarter 2 2023, hynny yw, ar ddiwedd mis Mehefin. 112 o filoedd oedd y cyrhaeddiad wythnosol a adroddwyd bum mlynedd yn ôl, h.y., ar ddiwedd chwarter 2 2018. (Er bod y ffigurau’n cael eu cyhoeddi pob chwarter, ers dechrau 2010 maent yn adlewyrchu’r canlyniadau a gafwyd dros y 6 mis blaenorol. Cyn 2010, defnyddid canlyniadau chwarter, h.y. 3 mis, yn unig).

Yn ôl RAJAR mae ffigurau gwrandawyr o Chwarter 3 2021 wedi eu cyfrifo gan ddefnyddio methodoleg arolwg diwygiedig a dylid ystyried hyn wrth gymharu â data hanesyddol.

Siart

Cyrhaeddiad wythnosol Radio Cymru 2000 – chwarter 2 2023

Cyrhaeddiad wythnosol Radio Cymru 2000 – chwarter 2 2023

Ffynhonnell: http://www.rajar.co.uk/ Daw’r ffigurau diweddaraf a ddangosir o ddatganiad Mehefin 2023.

Tynnwyd llinell drwy’r gyfres i amlygu’r duedd ac mae’r ardal dywyll yn dangos cyfwng hyder 95% bras.

Mae RAJAR yn nodi mai o leiaf 800 fyddai maint y sampl yng Nghymru. Gweler gwasanaeth ymchwil RAJAR. Mewn gwirionedd, oherwydd anghenion y gorsafoedd masnachol lleol, ceir sampl mwy.