Staff Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyhoeddi ystadegau am y nifer o staff sydd ganddynt bob chwe mis, gan ryddhau’r ffigurau mewn pdf, fformat anhwylus sydd, yn ôl awgrym Tim Berners-Lee am y ffordd i ddynodi pa mor agored y mae data, yn haeddu un seren yn unig, y sgôr isaf.

Ddiwedd mis Gorffennaf 2018, yn sgil datganiad gan y Llywodraeth, dechreuwyd rhyddhau data am weithlu’r Llywodraeth ar StatsCymru. Er bod y data sydd ar gael yno yn rhoi mwy o fanylion am y staff na’r hyn a oedd ar gael yn y pdf, dim ond data am un flwyddyn (2016/17) sydd yno, heb ei dorri i lawr fesur mis, ac ni fydd yn cael ei ddiweddaru ond yn flynyddol. Ar ben hynny, ni ellir ei gymharu â’r data a gyhoeddwyd hyd yn hyn heblaw am gwpl o rifau.

Er sicrhau bod y data’n cael ei weld mae Statiaith wedi tynnu’r data o’r pdfs o’r blaen. Dyma ddiweddariad a’r tro olaf y bydd modd cyhoeddi’r ffigurau ar y sail yma – a chymryd y bydd cyfresi StatsCymru’n disodli’r cyfresi hyn ac na fyddant yn parhau i’w cyhoeddi mewn pdf.

Staff Llywodraeth Cymru Ebrill 2009 - Mawrth 2018

Staff Llywodraeth Cymru Ebrill 2009 – Mawrth 2018

Dyma fersiwn rhyngweithiol o’r un siart:

Er mwyn amlygu newidiadau misol, mae’r siart canlynol yn defnyddio graddfa log ar yr echelin-y.  Mae’r siart yn dangos bod newid canrannol yn nifer y staff dros dro wedi cynyddu’n fawr ers mis Medi 2017 at fis Mawrth 2018 (+76%, o 107 i 188 cyfwerth ag amser llawn). Er cymhariaeth, gostyniad o -0.5% a welwyd yn nifer y staff parhaol (o 4,949.6 i 4,827.1  cyfwerth ag amser llawn).

Staff Llywodraeth Cymru Ebrill 2009 - Mawrth 2018. Graddfa log ar yr echelin-y

Staff Llywodraeth Cymru Ebrill 2009 – Mawrth 2018. Graddfa log ar yr echelin-y