Y Gymraeg yn ysgolion Cymru yn 1950

Ym mis Mehefin 1950 dosbarthwyd holiadur gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru i ysgolion Cymru drwy’r awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn 1953 yn ‘Lle’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgolion Cymru’. Ymhlith pethau eraill, gofynnodd yr holiadur i’r ysgolion ddosbarthu’r plant, fesul grŵp oedran, yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg. Ar sail yr ymatebion cynhyrchwyd map o bob awdurdod ac un ar gyfer Cymru gyfan (isod). Mae mapiau’r awdurdodau unigol yn dangos mwy o fanylion. Gellir lawrlwytho mapiau’r awdudodau unigol yma.

Map Cymru: iaith disgyblion 1950

Map Cymru: iaith disgyblion 1950

Credid ar y pryd mai’r arolwg hwn oedd y cyntaf i ddarparu ystadegau fel hyn ar raddfa mor fanwl. Mae hefyd yn nodedig am iddo gynhyrchu am y tro cyntaf ystadegau am yr hyn sy’n cael ei alw erbyn hyn yn drosglwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu. Dangosodd mai:

  • 75.5% o blant 5 i 6 oed oedd yn siarad Cymraeg mewn cartrefi lle roedd y ddau riant yn siarad Cymraeg.
  • Lle’r tad yn unig o’r ddau siaradai’r Gymraeg 7.9% o’r plant siaradai’r Gymraeg.
  • Lle’r fam yn unig o’r ddau siaradai’r Gymraeg 14.8% o’r plant siaradai’r Gymraeg.

Erbyn Cyfrifiad 2011 roedd y canrannau uchod, am blant 3 i 4 oed, wedi codi, yn eu trefn i 83%, 40% a 49%.  Ceir ystadegau diweddar am drosglwyddo yma ac yma.