Cododd y ganran o fabanod a anwyd i famau a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol (DG) o 5% yn 2000 i 11.6% yn 2016. Yng Nghaerdydd oedd y ganran uchaf yn 2016: 26.7% – i lawr o 26.8% yn 2015 – ond i fyny o 14.6% yn 2001. Ynys Môn oedd â’r ganran isaf yn 2016 (4.6%) yn cael ei dilyn yn agos gan Rhondda Cynon Taf (4.7%), Torfaen (4.8%), a Chaerffili a Chastell-nedd Port Talbot (4.9% ill dwy).
Ar ôl 2016, newidiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol sut y cyflwynir y data. Yn lle genediaethau i famau a anwyd o’r tu allan i’r DG, mae data am y genedigaethau lle oedd naill ai un neu ddau o’r rhieni wedi eu geni y tu allan i’r DG. Mae nifer y genedigaethau’n uwch wrth eu cyfrif fel hyn. Er enghraifft, 7.3% oedd y ganran yn Ynys Môn yn 2016: cymharer â’r 4.6% a ddyfynnwyd uchod. Mae’r siart isod yn dangos ffigurau am 2016 o’r ddwy gyfres. Erbyn 2023 roedd 17.5% o enedigaethau byw Cymru yn rhai lle ganwyd neu ai un neu ddau o’r rhieni y tu allan i’r DG. Yng Nghaerdydd, 37.9% oedd y ganran.
Dangosir y cyfresi yn y siart rhyngweithiol yma: % o enedigaethau oedd i un neu ddau riant a anwyd y tu allan i’r DG
Gellir cyfyngu ar y cyfresi sy’n ymddangos wrth glicio ar y botymau yn yr allwedd, a dangosir y ffigurau wrth i’r cyrchwr hofran uwchben cyfres.
Ffynhonnell ffigur Cymru 2000: Ystadegau Genedigaethau Cymru a Lloegr (cyfres FM1), 29, 2000
Fersiwn ryngweithiol o’r siart blaenorol: http://statiaith.com/cymraeg/demograffig/genedigaethau/2015/Babanod_2015_yn_ol_awdurdod_a_gwlad_enedigol_y_fam.html

