Archifau Categori: Addysg

Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Yn gynharach eleni cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y pwnc hwn. Eglurodd eu dogfen ymgynghori eu bod wedi comisiynu

“panel arbenigol o arbenigwyr iaith Gymraeg ac addysg, dan arweiniad cyn Brif
Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, i adolygu’r categorïau presennol o
ysgolion yn ôl darpariaeth y Gymraeg ac i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar
gyfer gwella effeithlonrwydd a chysondeb categorïau iaith ysgolion”

a’u bod wedi derbyn adroddiad ganddynt ym mis Rhagfyr 2019.  Roedd yr adroddiad hwnnw yn ei dro yn egluro eu bod wedi

“comisiynu Yr Athro Colin Baker, sy’n arbenigwr rhyngwladol mewn dwyieithrwydd, addysg ddwyieithog ac mewn astudiaethau ystadegol, i graffu’n fanwl ar ddata PLASC* yng Nghymru. Y bwriad yn y fan hon, wrth ddadansoddi’r data, oedd gweld a oedd y data’n dangos gwahanol ddulliau y gellid eu hystyried o glystyru neu gategoreiddio ysgolion yng Nghymru a hynny ar sail y data cyfredol a gesglir.”

* PLASC = Pupil Level Annual School Census / CYBleD Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol lefel Disgybl

Er bod yr adroddiad yn cyflwyno peth o’r gwaith a wnaed doedd adroddiad Yr Athro Baker ei hun ddim wedi ei gyhoeddi. Gwnes Gais Rhyddid Gwybodaeth i’w gael ac fe ddaeth y wybodaeth i law yr wythnos hon. Gellir gweld y cais a’r ymateb drwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.whatdotheyknow.com/cy/request/adroddiad_a_data_a_ddefnyddiwyd

Ymgynghoriad y Llywodraeth “Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol”

Dydw i ddim am gynnig sylwadau manwl ar yr ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/cenhadaeth-ein-cenedl-cwricwlwm-gweddnewidiol. O safbwynt cynhyrchu ystadegau ystyrlon yn y dyfodol am dwf addysg Gymraeg, mae braidd yn debyg i Brexit. Os ydych yn mynnu bwrw ymlaen â’r cynllun gwallgof, y ffordd orau yw cychwyn o’r newydd eto.

Os derbynnir y cynigion presennol, anodd gweld sut y ceir eto darlun cyson ar draws Cymru o faint o blant sy’n cael addysg Gymraeg. Fydd dim modd cynhyrchu’r math o ddadansoddiadau sydd wedi eu cyflwyno ar Statiaith, e.e. Asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol. Ac anodd hefyd gweld sut y gellir categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith, heb fod y data yn cael ei gasglu mewn ffordd gyson.

Mae byd cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i’w weld yn trafod y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel nod realistig. Dydy e ddim. Siawns y bydd cynigion presennol y Llywodraeth yn sicrhau na fydd gan neb fyth syniad o fath yn y byd ble byddwn ni ar y daith, i fyny neu i lawr, beth bynnag.

Datgelu data awdurdodau lleol am ‘dwf’ addysg Gymraeg

Eleni, am y tro cyntaf am bron ugain mlynedd, ni chyhoeddodd y Llywodraeth ddata fesul awdurdod lleol am y nifer o blant a aseswyd mewn Cymraeg gan athrawon fel rhan o drefniadau asesu’r cwricwlwm cenedlaethol. Bu’n rhaid gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth i’w ddatgelu fel a ofnwyd pan gyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’r cefndir i’w weld yma.

Cyhoeddwyd y data cenedlaethol ar 8 Awst. Mae’r siart canlynol yn dangos y canlyniadau hynny.

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2018

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2018

Tynnwyd sylw eisoes mewn man arall ar y wefan hon at ganlyniadau 2018 y Cyfnod Sylfaen (ar blant 7 oed yn fras):  mewn sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg. Nawr, cawn weld y sefyllfa ar leol awdurdodau lleol. Gwaethygodd y sefyllfa yn y mwyafrif o awdurdodau: gostyngodd y ganran ers 2017 mewn 13 awdurdod allan o’r 22 sydd gennym: https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadaur-cyfnod-sylfaen/ 

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, cynyddodd y ganran a aseswyd mewn Cymraeg mewn 11 awdurdod ond gostyngodd yn yr 11 awdurdod arall: https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadau-cyfnod-allweddol-2/ 

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, bu cynnydd mewn 10 awdurdod a gostyngiad mewn 8 (mae pedwar awdurdod lle nad oes unrhyw ddarpariaeth o fewn yr awdurdod): https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadau-cyfnod-allweddol-3/ 

Mae peidio â chyhoeddi’r data’n rheolaidd yn gam mawr yn ôl. Rhaid i’r data hyn gael eu cyhoeddi a chael sylw, i bawb gael deall sefyllfa’r Gymraeg mewn addysg – a’r tueddiadau.

Ceisio cael gafael ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Mae’r Llywodraeth yn dweud yn aml bod data am y Gymraeg i’w weld yng nghynlluniaiu strategol y Gymraeg mewn addysg. Gweler er enghraifft eu hymateb i’r ymgynghoriad a drafodwyd gan Statiaith o’r blaen: https://statiaith.com/blog/barn/ymatebion-i-ymgynghoriad-y-llywodraeth/ Ond a geisioch gael gafael ar y cynlluniau hynny? Gofynnais i’r Llywodraeth ddarparu copi o’r rhai a gymeradwywyd ganddynt a dyma’r ateb anfoddhaol a gefais: https://www.whatdotheyknow.com/request/cynlluniau_strategol_y_gymraeg_m#incoming-1162732

Pam ydw i’n ystyried yr ateb yn anfoddhaol? Yn amlwg, ni roddwyd y wybodaeth a geisiais ond mae hefyd yn amlwg fod gan y Llywodraeth yr hyn y bûm yn ei geisio. Yn hytrach nag ei wneud yn hwylus i neb weld y cynlluniau, maent yn ei wneud yn anodd. Cymerodd gryn amser i gyrchu’r cynlluniau canlynol o wefannau’r awdurdodau ond ni allaf fod yn sicr mai dyma’r fersiynau a gymeradwywyd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dweud mai drafftiau ydynt. Os cofiaf yn iawn nid oes yr un yn dweud i’r drafft gael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth. A ni chofiaf chwaith gweld dim ar yr un o’r gwefannau yr ymwelais â nhw a oedd yn sôn o gwbl bod y cynllun wedi ei gymeradwyo.

Byddaf yn gofyn i’r Llywodraeth ail-ystyried ac i sicrhau y cyhoeddir pob cynllun a gymeradwyir ar ei gwefan ei hun yn y dyfodol.

DIWEDDARIAD 31 Gorffennaf 2018

Fe lwyddodd y cais Rhyddid Gwybodaeth ar apêl. Dyma ddolen at y 15 cynllun a ddarparodd y Llywodraeth: https://www.whatdotheyknow.com/request/cynlluniau_strategol_y_gymraeg_m#incoming-1196832

Ynys Môn

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerffili

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Gwynedd

SIr Benfro

Powys

Rhondda Cynon Taf

Wrecsam

Caerdydd

Diweddariad arall: ar 15 Awst 2018 ymrwymodd y Gweinidog i gyhoeddi dolen at gynlluniau’r holl awdurdodau pan fyddant wedi eu cymeradwyo: http://www.assembly.wales/written%20questions%20documents/information%20further%20to%20written%20assembly%20question%2076888/180724-76888-w.pdf