Mae’r wefan hon yn cyflwyno llawer o ganlyniadau Cyfrifiad 2011, ar ffurf siartiau a mapiau. Cynhyrchodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ganlyniadau am lawer o ‘ddaearyddiaethau’ gwahanol. Nid yw’r cyflwyniadau data a geir yn y wefan hon yn gynhwysfawr o ran y daearyddiaethau. Y rhai a ddefnyddir amlaf yma yw:
- Awdurdodau lleol (22)
- Adrannau etholiadol (‘wardiau’ yn swyddogol yn Lloegr, ac ar lafar gwlad yng Nghymru – a daeth y term ‘ward’ yn swyddogol yng Nghymru eto ers Cyfrifiad 2011) . Mae cymhlethdod arall: oherwydd bod rhai wardiau â phoblogaeth fach ar gyfer rhai tablau canlyniadau mae rhai wedi eu cyfuno, fel bod y canlyniadau ar gael ar gyfer wardiau cyfun yn hytrach na wardiau unigol. Yn 2011 roedd 881 ward ac 868 ward cyfun.
- Cymunedau (868)
A siarad yn gyffredinol, mewn ardaloedd gwledig tuedda’r Cymunedau i fod yn llai na’r wardiau, ac mae’r gwrthwyneb yn wir mewn ardaloedd trefol.