Mae data ar gael am faint ymatebodd i Gyfrifiad 2011 yn Gymraeg, naill ai drwy lenwi’r ffurflen bapur Gymraeg neu drwy ddefnyddio’r ffurflen Gymraeg ar y rhyngrwyd. Yn genedlaethol 2.1% a ymatebodd gan ddefnyddio’r ffurflen bapur Cymraeg a 0.5% ymatebodd yn Gymraeg ar y rhyngwyd. (Yng Nghyfrifiad 2001, roedd 41,800 o gartrefi wedi ymateb drwy ddefnyddio’r ffurflen bapur Gymraeg, 3.5% o’r holl ffurflenni a ddychwelwyd: Adroddiad y SYG ar ansawdd Cyfrifiad 2001.)
Yn ôl awdurod, Gwynedd oedd â’r canrannau uchaf yn ymateb yn Gymraeg: 14.3% yno ddefnyddiodd y ffurflen Gymraeg a defnyddiodd 1.9% arall y Gymraeg ar y rhyngrwyd.
Mae’r siart isod yn dangos data ar lefel ardaloedd cynnyrch ehangach haen isaf (LSOA) yn ôl awdurdod lleol. Dangosir y ganran a atebodd yn Gymraeg yn erbyn y ganran 16 oed a throsodd sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Y berthynas rhwng y defnydd o’r Gymraeg i ymateb i Gyfrifiad 2011 a’r ganran 16 oed a throsodd sy’n llythrennog yn y Gymraeg
Mae’r siart nesaf yn dangos y canrannau a atebodd ar y rhyngrwyd yn unig.

Y berthynas rhwng y defnydd o’r Gymraeg ar y rhyngrwyd i ymateb i Gyfrifiad 2011 a’r ganran 16 oed a throsodd sy’n llythrennog yn y Gymraeg
Ffynhonnellau: Cyfraddau ymateb i Gyfrifiad 2011 gan ddefnyddio ffurflenni neu’r rhyngrwyd (ffeil Excel ar wefan y SYG); tabl LC2206 Cyfrifiad 2011