Moslemiaid

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 45,950 o bobl yn dweud mai Islam oedd eu crefydd. Dyna 1.5 y cant o boblogaeth breswyl Cymru. Roedd 52 y cant ohonynt (23,656) yn byw yng Nghaerdydd, 15 y cant (6,859) yn byw yng Nghasnewydd a 12 y cant (5,419) yn byw yn Abertawe. Roedd 3 y cant ohonynt yn byw yng Ngwynedd a 2 y cant yn Rhondda Cynon Taf, ac o dan 2 y cant ymhob un o’r awdurdod eraill.

Yng Nghaerdydd, roedd y Moslemiaid yn 6.8 y cant o’r boblogaeth, ond mewn nifer fawr o ardaloedd cynnyrch ffurfient ganran uwch o lawer, fel y gwelir yn y map canlynol. Roedd o gwmpas 1 ymhob 4 neu 5 o’r boblogaeth yn Foslemiaid yn wardiau Grangetown (23%), Trebiwt (21%) a Glan-yr-afon (19%). Gellir lawrlwytho ffeil Excel (yn Saesneg yn unig) gyda rhagor o fanylion am Foslemiaid Caerdydd yma.

Moslemiaid yng Nghaerdydd, yn ôl ardal gynnyrch

Moslemiaid yng Nghaerdydd, fel % y boblogaeth, yn ôl ardal gynnyrch

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2011, tabl KS209