Yn y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2011, symudodd 70,749 o bobl (3 oed a throsodd) i Gymru o’r tu allan. O’r rhain, roedd 4,713 (6.7%) yn gallu siarad Cymraeg. Yn genedlaethol felly roedd 2.5% o boblogaeth 2011 wedi symud i Gymru yn ystod y flwyddyn.
Amrywiai maint y mewnfudo o ardal i ardal. Mae’r siart isod yn dangos y ganran fesul ward, yn ôl awdurdod lleol.
Roedd 13 o wardiau lle roedd y ganran yn uwch na 10 y cant, pob un yn ardal ar bwys prifysgol. Mae’r smotiau cochyn yn y siart yn dangos cymedrau y ganran a fewnfudodd. Ceredigion oedd â’r cymedr uchaf: 5.3%. Caerdydd oedd yn ail (4.5%) a Gwynedd yn drydydd (3.7%).
Er mwyn ceisio gweld effaith parhaol mewnfudo – yn hytrach nag effaith prifysgolion – gwell cyfyngu’r dadansoddiad i fewnfudo gan rai hŷn. Wedi gwneud hynny (gan gyfyngu’r dadansoddiad i rai 25 oed a throsodd), dim ond mewn 5 ward y ceir dros 10% wedi mewnfudo, a phedair o’r rheini’n wardiau prifysgolion (Deiniol a Garth, Menai, Gwynedd; Cathays, Caerdydd, a Threfforest, Rhondda, Cynon, Taf). Aberdyfi sydd ar y brig, gyda 10.7% wedi mewnfudo o’r tu allan i Gymru. Roedd 4 ward arall â dros 7.5% wedi mewnfudo, un yn ward prifysgol (Aberystwyth Gogledd). Abersoch/Llanengan (9.5%), Gorllewin Porthmadog (9.1%) a Llanbedrog (7.6%) oedd y lleill.
(Ffynhonnell: tabl DC8201 Ystadegau mudo Cymru, Cyfrifiad 2011).