Myfyrwyr o Gymru yn astudio yn Lloegr

Cafodd y rhan fwyaf o ganlyniadau Cyfrifiad 2011 eu cyflwyno ar sail y boblogaeth arferol oedd mewn ardal ar ddiwrnod y cyfrifiad. Gofynnwyd i fyfyrwyr oedd yn byw oddi cartref i gofnodi lle roeddynt yn byw pan nad oeddynt yn astudio. Mae’r wybodaeth honno’n golygu bod modd cyflwyno canlyniadau ar sail y boblogaeth y tu allan i dymor coleg neu ysgol. Ceir rhagor o fanylion yma.

Cymuned Llanfihangel-y-Fedw yng Ngwent oedd â’r ganran uchaf yn astudio yn Lloegr, sef 3.6%, ond dim ond 11 o fyfyrwyr oedd hynny allan o boblogaeth allan o’r tymor o 305.

Roedd chwe chymuned lle gwelir gwahaniaeth o fwy nag un pwynt canran rhwng y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg ar sail y boblogaeth breswyl arferol a’r ganran ar sail y boblogaeth y tu allan i dymor coleg

% yn gallu siarad Cymraeg:
 Cymuned y tu allan i’r tymor:  yn ystod y tymor: Gwahaniaeth
Faenor 42.5% 32.9% 9.6 pwynt canran
Bangor 44.9% 36.4% 8.5 pwynt canran
Llanbadarn Fawr 37.5% 29.1% 8.4 pwynt canran
Llanbedr Pont Steffan 54.2% 46.9% 7.3 pwynt canran
Aberystwyth 36.2% 30.9% 5.3 pwynt canran
Sain Dunwyd 11.8% 8.8% 3.0 pwynt canran