Cymharu Cyfrifiad 2011 â chyfrifiadau blaenorol

Mae’r siartiau canlynol yn cynnwys llinellau i nodi’r plant deuddeg oed a’r bobl dwy ar hugain oed i amlygu un nodwedd. Bydd y plant deuddeg oed mewn un cyfrifiad yn ddwy ar hugain oed erbyn y cyfrifiad canlynol (a bwrw eu bod yn fyw o hyd) ond nid yr un garfan yn union a welir yng nghanlyniadau’r cyfrifiad. Bydd nifer o’r siaradwyr Cymraeg oedd yn 12 oed wedi gadael Cymru erbyn eu bod yn 22 oed, a bydd nifer o’r rhai 22 oed yng Nghymru wedi symud i Gymru. Er bod allfudiad siaradwyr Cymraeg yn gallu egluro peth o’r gostyngiad a welir o un cyfrifiad i’r llall, bydd llawer o’r gostyngiad oherwydd nad yw’r oedolyn 22 oed yn honni fod â’r un gallu yn y Gymraeg ag yr honnodd rhieni’r unigolyn yna am eu plentyn 12 oed ddeng mlynedd yn gynharach. Mae hyn wedi ei ymchwilio o’r blaen (gweler Population Trends 122 (Gaeaf 2005) (pdf)) ac mae’r ymchwil hwnnw wedi ei ddiweddaru yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011. Gweler Prosiect ymchwil 30165 Astudiaeth Hydredol y SYG) am y cefndir a thudalen Dadansoddiad Astudiaeth Hydredol y Swyddfa Ystadegol Gwladol am y canlyniadau.

Nifer siaradwyr Cymraeg yn ôl oed 1981-2011

Nifer siaradwyr Cymraeg yn ôl oed 1981-2011

Hyd yn oed os bydd yr un nifer o siaradwyr gall ganran y siaradwyr ostwng – oherwydd mewnfudo.

Y ganran yn siarad Cymraeg yn ôl oed yng Nghyfrifiadau 1981, 1991, 2001 a 2011

Y ganran yn siarad Cymraeg yn ôl oed yng Nghyfrifiadau 1981, 1991, 2001 a 2011

Mae’r ganran yn siarad Cymraeg yn ôl oed i’w gweld hefyd yn y siart Google yma: Canran yn siarad Cymraeg yn ôl oed, 1981, 1991, 2001 a 2011

Wrth ddilyn y ddolen ganlynol (sy’n dangos siart a data a ddangoswyd ar wefan Comisiynydd y Gymraeg cyn i honno gael ei hacio ar ddechrau 2021)  gwelwch y ganran oedd yn siarad Cymraeg yn ôl saith grŵp oedran ymhob cyfrifiad ers 1911:
Canran yn siarad Cymraeg mewn 7 grŵp oedran, 1911-2011

Mae’r siartiau canlynol hefyd yn dangos y canrannau yn ôl grŵp oedran.

Canrannau yn siarad Cymraeg grwpiau oed o dan 25, 1911: 2011

Canrannau yn siarad Cymraeg grwpiau oed o dan 25, 1911: 2011

Canrannau yn siarad Cymraeg grwpiau oed dros 25, 1911: 2011

Canrannau yn siarad Cymraeg grwpiau oed dros 25, 1911: 2011

Mae’r siart isod yn dangos y niferoedd oedd yn gallu siarad Cymraeg ymhob cyfrifiad er 1901. (Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.) Ar ôl Cyfrifiad 1981 nid oedd yn bosibl i ymatebydd gofnodi ei fod yn siaradwr Cymraeg uniaith.

Mae’r tabl canlynol yn dangos y niferoedd sy’n sail i’r siart uchod.

Cyfrifiad Siaradwyr Cymraeg uniaith Siaradwyr dwyieithog Cyfanswm
1901 280,905 648,919 929,824
1911 190,292 787,074 977,366
1921 155,989 766,103 922,092
1931 97,932 811,329 909,261
1951 41,155 673,531 714,686
1961 26,223 629,779 656,002
1971 32,725 509,700 542,425
1981 21,283 482,266 503,549
1991 508,098 508,098
2001 582,368 582,368
2011 562,016 562,016