Diwydiant

Mae siart isod yn dangos y nifer o bobl (16 oed a throsodd mewn cyflogaeth yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2011) yn ôl diwydiant a’u gallu i siarad Cymraeg. yn 2011 yn ôl eu dosbarth economaidd-gymdeithasol. Gweithiai 1 ymhob 6 o siaradwyr Cymraeg (16.2%) yn y sector Addysg ac roeddent yn ffurfio 26.7% o’r gweithlu yn y sector hwnnw. Dim ond yn y diwydiannau Amaethyddiaeth, ynni a dŵr y cafwyd canran uwch yn siarad Cymraeg: 29.5%.

Bydd teitl llawn y categori’n cael ei ddangos wrth i’r cyrchwr hofran uwchben bar.

Ffynhonnell: tabl DC2611 Cyfrifiad 2011

Yn genedlaethol, roedd 16.6% o’r bobl 16 oed a throsodd oedd mewn cyflogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Ffynhonnell: tabl DC2611 Cyfrifiad 2011

Mae data tebyg wedi eu siartio yma ar lefel ward ac awdurdod lleol.

Mae ‘R, S, T, U Arall’ yn cynnwys grwpiau ‘R Celfyddydau, adloniant a hamdden’, ‘S Gweithgareddau gwasanaethu eraill’, ‘T Gweithgareddau cartrefi fel cyflogwyr; gweithgareddau cynhyrchu nwyddau heb ei gwahaniaethu – a gwasanaethau- catrefi at eu defnydd eu hunain’ a ‘U Gweithgareddau sefydliadau a chyrff alltiriogaethol’ dosbarthiad safonol diwydiannau (SIC) 2007 .