Mae’r siart isod yn dangos ym mha fath o ardal yr oedd siaradwyr Cymraeg yn byw yn 2011, yn ôl y dosbarthiad gwledig-dinesig a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegol Gwladol o ardaloedd cynnyrch (OA) Cyfrifiad 2011. (Sylwer y defnyddir dosbarthiad gwledig-dinesig gwahanol gan Lywodraeth Cymru yn eu dadansoddiadau hwy).
Ffynhonnell: tabl KS208 Cyfrifiad 2011
Mae 47% o’r holl siaradwyr Cymraeg yn byw mewn ardal drefol, yn ôl y dosbarthiad hwn. Mae’r ganran yn amrywio yn ôl oed. Mae 56% o siaradwyr Cymraeg 3 i 15 oed yn byw mewn ardal drefol, i’w gymharu â 44% o’r siaradwyr 16 i 64 oed a 38% o’r siaradwyr 65 oed a throsodd. Dengys y map isod yr ardaloedd cynnyrch wedi eu categoreiddio gan ddefnyddio’r dosbarthiad yma.
Manylion am ddosbarthiad Gwledig Trefol 2011
Defnyddir addasiad o’r dosbarthiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae eu diffiniad hwy o ardaloedd dinesig yn cynnwys ardaloedd ‘Tref a chyrion gwledig’ ond ddim yn cynnwys ‘DInas a thref ddinesig mewn lleoliad gwasgarog’. Caergybi, y Drenewydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin sydd yn y categori olaf yna. Mae trefi Brynbuga, Dinbych, Biwmaris a Threfynwy’n cael eu cyfrif ymhlith yr ardaloedd gwledig yn nosbarthiad y SYG a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Mae’r map nesaf yn dangos yr ardaloedd cynnyrch gan ddefnyddio’r dosbarthiad a arddelir gan y Llywodraeth.