Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O’r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r siart isod yn dangos fod y ganran honno’n uwch o lawer na chanrannau’r hunaniaethau eraill. 6% o’r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r siart hefyd yn awgrymu bod y patrwm yn debyg iawn ar draws Cymru.
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2011, tabl DC2203.
Mae’r siart isod yn dangos y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 yn ôl rhyw ac oed yn ogystal ag yn ôl hunaniaeth genedlaethol.