Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn cael eu cyflwyno ar sawl sail boblogaeth. Yr un arferol yw’r boblogaeth breswyl ond mae canlyniadau hefyd ar gael am y boblogaeth sy’n gweithio mewn ardal. Dyma sail y siart isod sy’n dangos canlyniadau Caerdydd. Mae’r 18,699 sy’n gallu siarad Cymraeg yn 9.4% o boblogaeth gweithleodd y ddinas. Mewn cymhariaeth roedd 21,311 o bobl 16 i 64 oed oedd yn byw yng Nghaerdydd yn gallu siarad Cymraeg ond y rheini’n cynrychioli dim ond 6.4% o’r boblogaeth breswyl (tabl KS208). Dim ond 15,564 o siaradwyr Cymraeg (16 oed a throsodd) preswyl y ddinas oedd mewn cyflogaeth yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2011 (gweler e.e. tabl DC2611), a’r rheini’n 9.7% o breswylwyr Caerdydd oedd mewn cyflogaeth.