Cyhoeddwyd y data cyntaf o Gyfrifiad 2021 oedd yn ymwneud â throsglwyddo’r Gymraeg gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mehefin 2023 (https://www.llyw.cymru/cyfansoddiad-cartrefi-yng-nghymru-o-ran-y-gymraeg-cyfrifiad-2021). Rwyf wedi ychwanegu dadansoddiad o’r data hwnnw i’r wefan. Edrych ar ddata’r awdurdodau lleol (o Gyfrifiad 2021 a 2011) y mae yn bennaf. Rwy’n ei gyhoeddi nawr ychydig cyn bod rhagor o ddata i fod i ymddangos ar 1 Mai, a’r data hwnnw’n cynnwys manylion am ryw rhieni y plant. Yn sgil cyhoeddi’r data yna, bwriadaf ychwanegu at, neu ddiweddaru, y dadansoddiad rwy’n ei ryddhau nawr: https://statiaith.com/cymraeg/trosglwyddo/cyfrifiad/2021/dadansoddiad_trosglwyddo_26042024.html