Dylid trin mapiau canlyniadau crai’r cyfrifiad mewn ardaloedd bychain, fel wardiau, yn ofalus. Lle ceir niferoedd isel mewn ardal yn arbennig, rhaid cadw mewn cof mai rhoi ciplun y mae’r cyfrifiad o’r sefyllfa fel yr oedd ar ddiwrnod y cyfrifiad. Pe cynhelid y cyfrifiad ar ddiwrnod arall efallai y ceid darlun go wahanol. Er enghraifft, efallai nad oedd ond 3 o blant 3 oed mewn ardal ar ddiwrnod y cyfrifiad, a phob un ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Y diwrnod nesaf efallai y byddai un o’r plant hynny wedi cael ei benblwydd yn bedair, a phlentyn arall oedd yn ddwy oed (ac yn ddi-Gymraeg) wedi cael ei benblwydd yn dair oed. Byddai nifer y plant 3 oed wedi aros yr un fath, ond y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg nawr yn 67% yn lle 100%. Un ffordd o gael mesur mwy dibynadwy yw edrych ar ardaloedd mwy. Ffordd arall yw ystyried y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg yn yr ardaloedd cyfagos, a defnyddio data yr ardaloedd hynny i amcangyfrif y sefyllfa debygol yn yr ardal dan sylw. Dyna yw hanfod yr hyn a elwir yn ‘llyfnu gofodol’.
Cyflwynwyd poster yng nghynhadledd y ‘British Society for Population Studies’ a gynhaliwyd yn Abertawe yn 2013 a oedd yn dangos canlyniad un ymgais ar lyfnu gofodol. Roedd hefyd yn ceisio modelu’r data i weld a oedd perthynas rhwng trosglwyddo â dosbarth economaidd-gymdeithasol y teulu. Dolen at y poster.