Cyfrifiad 2021: gweithdy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am gwestiynau iaith

Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegol Gwladol (SYG) weithdy cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2021 ar 9 Tachwedd a’r cwestiynau am iaith oedd y prif bwnc dan sylw. Dyma gofnod o rai o’r materion a drafodwyd.

Dyma’r cwestiynau a ofynnwyd yn y cyfrifiad yng Nghymru yn 2011:

Cyfrifiad 2011: y_cwestiynau iaith

Cyfrifiad 2011: y cwestiynau iaith

Mae’n debyg y bydd yr un cwestiynau am y Gymraeg yn cael eu cynnwys yn 2021 ond mae’r SYG wedi bod yn profi ffurfiau gwahanol i’r cwestiwn am brif iaith, yn benodol y syniad y gellid newid o ofyn ai Saesneg neu Gymraeg oedd y prif iaith – ac wedyn neidio i ofyn i’r atebwr ddweud pa iaith oedd ei brif iaith os nad oedd y Saesneg na’r Gymraeg yn brif iaith iddo/i – ac yn lle hynny gofyn am y Saesneg a’r Gymraeg ar wahân, fel a ganlyn, er enghraifft:


18. Beth yw eich prif iaith?

Saesneg – ewch i 20 (hynny yw, neidio heibio i gwestiwn am allu yn y Saesneg)
Cymraeg – ewch i 20
Arall, nodwch (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain)

………………………………..

19. Pa mor ddal allwch chi siarad Saesneg?

Da iawn etc


Roedd y SYG wedi cynnal pedwar grŵp ffocws i drafod hyn, yn ardaloedd Caerdydd/Casnewydd; Abertawe; Ystradgynlais/Aberhonddu; Caernarfon, er, os deallais yn gywir, dim ond ugain o bobl a gynhwyswyd i gyd.

Nod y SYG wrth gynnwys y cwestiynau hyn yw cael data am y nifer o bobl nad ydynt yn gallu siarad Saesneg yn ddigon da i ddefnyddio neu dderbyn gwasanaethau Saesneg. Gofynnwyd yr un cwestiwn yn Lloegr yn 2011 – heblaw mai gofyn yn unig am y Saesneg a wnaed. (Trafodwyd a beiriadwyd y syniadaeth sydd y tu ôl i hyn yn Lloegr. e.e. gweler Sebba, M., 2017. Awkward questions: language issues in the 2011 census in England. Journal of Multilingual and Multicultural Development, pp.1-13. http://dx.doi.org/10.1080/01434632.2017.1342651)

Ar ôl cryn drafodaeth f’argraff i oedd fod y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn bresennol yn gwrthwynebu’r awgrym hwn. Rhoddwyd rhai o’r dadleuon canlynol gerbron.

  1.  Mae gofyn am brif iaith, os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich prif iaith, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Nid yw’n trin y Gymraeg yn debyg i ieithoedd lleiafrifoedd eraill ond yn rhoi y statws dyledus iddi fel iaith swyddogol yng Nghymru.
  2. Nid yw deddfwriaeth am y Gymraeg yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o siaradwyr, e.e. siaradwyr prif iaith, mamiaith, iaith gyntaf, siaradwyr rhugl ac yn y blaen. Oherwydd hynny, nid oes defnyddo swyddogol o fath yn y byd i ddata sy’n rhannu siaradwyr Cymraeg yn ddosbarthau amrywiol.
  3. I gymdeithasegwyr iaith a chynllunwyr iaith, mae data am rai dosbarthau gwahanol o siaradwyr o ddiddordeb ond gall arolygon a ffynhonellau data eraill, e.e. y cyfrifiad ysgolion ar lefel disgybl, ateb y rhan fwyaf o’r galw gan ddarparu data gweddol dibynadwy ar lefel genedlaethol neu ranbarthol am y dosbarthau gwahanol.
  4. Byddai medru nodi mai’r Gymraeg oedd eich prif iaith yn plesio rhai ond dylai caredigion yr iaith fod yn ymwybodol o’r canlyniad. Canlyniad sicr gofyn am y Gymraeg fel prif iaith yn benodol fyddai cynhyrchu amcangyfrif gwahanol o’r nifer a’r ganran sy’n siarad Cymraeg, a’r rhifau hynny yn rhwym o fod yn is na’r nifer a’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg, boed yn brif iaith ai peidio.
  5.  Wedi hynny i gyd, efallai mai’r ddadl gryfaf oll yn erbyn y syniad yw bod y cwestiwn a gynigir yn rhy syml. Nid yw gofyn am ‘brif iaith’ yn cydnabod nad yw’n cysyniad hawdd. Mae defnydd pobl ddwyieithog neu aml-ieithog o’r ieithoedd maent yn gallu eu siarad yn amrywio yn ôl eu sefyllfa – ble? yn y cartref, yn y gwaith, – gyda phwy? teulu, cydweithwyr, cwsmeriaid, y meddyg, ac yn y blaen. Ac ai siarad yn unig sy dan sylw, neu allu darllen neu ysgrifennu hefyd? (Mae’r feirnidaeth hon yn ddilys i’r cwestiwn yn Lloegr hefyd.)
  6. Nid yw gofyn yn unig am eu gallu yn y Saesneg i’r rhai sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg/Cymraeg fel prif iaith yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynnig wedi eu seilio ar y syniad mai drwy’r Saesneg yn unig y mae disgwyl gwasanaethu rhai nad yw’r Saesneg/Cymraeg yn brif iaith iddynt.

Cyfle i drafod oedd y gweithdy hwn ac nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud. Bydd cyfleoedd ymgynghori eto.