Ffynonellau data

Dyma ddolenni at nifer o ffynonellau eraill o ddata am y Gymraeg:

  1. Arferai fod gan wefan  Comisiynydd y Gymraeg adran data ac ystadegau ond diflannodd pan gafodd ei hacio. Mae rhai ystadegau yn ei adroddiad 5-mlynedd 2016-2020.
  2. Nomis yw’r ail. Un o wefannau y Swyddfa Ystadegol Gwladol yw hon. Ceir data manwl Cyfrifiad 2011 yma.
    Data Cyfrifiad 2011 – gwefan Nomis
  3. StatsCymru yw’r nesaf. Llywodraeth Cymru bia hi. Mae peth data manwl ar gael a chyfleuster siartio.
    StatsCymru – gwefan Llywodraeth Cymru
  4. Mae’r nesaf wedi ei chynhyrchu gan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru. Mae modd dod o hyd i ddata ardal fach yn hon a chael adroddiad parod ar rai o’r prif ganlyniadau.
    InfoBaseCymru – gwefan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru
  5. Cafodd wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei harchifo pan ddiddymwyd y Bwrdd. Mae ei hardran Ystadegau’n cynnwys llawer o ddadansoddiadau diddorol, gan gynnwys rhai Cyfrifiad 2001 ac Arolygon Defnydd Iaith 2004-06.
    Adrannau Ystadegau archif Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  6. Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg (2012)  (lawrlwytho pdf 7MB) A statistical overview of the Welsh language (2012) (fersiwn Saesneg lawrlwytho pdf 7MB)