Mae diffiniadau Llywodraeth Cymru o gategorïau cyfrwng dysgu ysgolion i’w gweld yma (bydd yn agor tab newydd). Maen nhw’n gymleth. Bwriad yr adran hon yw bwrw golwg ar rai ystadegau er mwyn ceisio deall natur yr ysgolion sy yn y wahanol gategorïau.
Mae pob ysgol oedd mewn un o’r categoríäu cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog wedi eu siartio yn y siartiau canlynol.
Mae’r siart isod yn dangos cymedr y ganran safodd arholiad TGAU yn Gymraeg ym mhob pwnc, heblaw am Gymraeg a Saesneg, Iaith a Llen.
Mae siart rhyngweithiol tebyg i’r un uchod yma: http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/p6_cymedr_canran_Cymraeg.html
Mae’r siart isod wedi ei seilio ar niferoedd yn hytrach na chanrannau. Mae’n plotio pob ysgol yn ôl cymedr y nifer a safodd arholiad yn Saesneg (ar yr echelin-y ar y chwith) yn erbyn cymedr y nifer safodd yn Gymraeg ar draws y gwaelod ar yr echelin-x. Mae’r llinell letdraws yn rhannu’r ysgolion rhwng y rhai lle mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn sefyll arholiadau yn Gymraeg (i’r dde, o dan y llinell) a’r rhai lle mae’r rhan fwyaf yn sefyll arholiad yn Saesneg (i’r chwith uwchben y llinell)
Mae siart rhyngweithiol tebyg i’r un uchod yma: http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/p4_cymedr_nifer_Cymraeg_v_Saes.html
Ran amlaf, Cymraeg (Iaith) yw’r pwnc TGAU y mae bron pawb sy’n derbyn addysg Gymraeg ac yn sefyll TGAU mewn unrhyw bwnc yn ei sefyll. Ond dydy pob ysgol cyfrwng Cymraeg ddim yn cynnig eu holl bynciau drwy’r Gymraeg.
Mae’r pedair siart canlynol yn debyg ond wedi eu seilio ar flynyddoedd gwahanol, o 2013 i 2016. Mae pob ysgol uwchradd a chanol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog wedi eu plotio eto, yn ôl y ganran a safodd arholiad Cymraeg (iaith gyntaf) ar draws y gwaelod ac ar y chwith y ganran safodd arholiad Cymraeg yn yr ail bwnc uchaf o ran canran. Y tro hwn cyfrifir y canrannau ar sail yr holl ddisgyblion 15 oed (2013-15) neu ym Mlwyddyn 11 (2016).
I blant sy’n derbyn addysg Gymraeg, pynciau craidd y Cwriwcwlwm Cenedlaethol yw’r Gymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Heblaw am y Gymraeg felly dim ond dau bwnc – Mathemateg a Gwyddoniaeth – y gellid disgwyl y gallai pob disgybl Cymraeg eu hastudio drwy’r Gymraeg ymhob ysgol. Gan fod Gwyddoniaeth yn gallu cael ei gynnig fel un neu ragor o bynciau, yn anaml, os o gwbl, y bydd yr un ganran o blant 15 oed/Blwyddyn 11 yn sefyll arholiad ymhob un o’r gwyddoniaethau unigol neu Wyddoniaeth (Craidd), hyd yn oed os yw’r pynciau’n cael eu dysgu drwy’r Gymraeg. Yn aml iawn felly, Mathemateg yw’r ail bwnc o ran canran, gan fod holl ddisgyblion Blwyddyn 11 yn gorfod ei hastudio. Ond nid yw pob ysgol cyfrwng Cymraeg hyd yn oed yn dysgu Mathemateg drwy’r Gymraeg. (Dylid nodi y gall Mathemateg fod yn cael ei gynnig yn Gymraeg ond, yn debyg i Wyddoniaeth, mae mwy nag un arholiad Mathemateg – Cymwysiadau Mathemateg a Dulliau mewn Mathemateg. Os bydd rhai o’r disgyblion yn sefyll un o’r rheini a rhai eraill yn sefyll un arall, gallai canran ‘yr ail bwnc’ ymddangos yn is na phe caent yn cael eu cyfuno a’u cyfrif yn un pwnc, ‘Mathemateg’.)
Ffynhonnell: gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am y data sy’n sail i’r holl siartiau ar y tudalen hwn. Gellir ei lawrlwytho (ffeil Excel 312KB) yma.
Mae’r holl god R a ddefnyddiwyd i greu’r siartiau uchod, ynghyd â rhagor o ganlyniadau, i’w weld yn http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/Dadansoddi_iaith_TGAU.nb.html
Deilliant 3 Strategaeth Addysg Cyfrwn Cymraeg Llywodraeth Cymru (2010)
Cynhwysid yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2010 yr hyn a alwyd yn Ddeilliant 3:
Yn amlwg, roedd y Deilliant yna yn anelu at sicrhau bod plant oedd yn gallu siarad Cymraeg yn astudio rhychwant o bynciau eraill drwy’r Gymraeg. Dyma sut aeth y dangosydd o 2010 tan 2014, y tro olaf i’r Llywodraeth adrodd ar eu strategaeth.
I fesur llwyddiant Deilliant 3 rhaid cael data ar lefel disgybl unigol ac nid yw hynny ar gael ond i’r byrddau arholi a’r Llywodraeth. Dadansoddiadau tebyg ir rhai a gyflwynir yn y siartiau uchod yw’r unig ffordd i geisio cael syniad am ehangder a datbygiad addysg cyfrwng Cymraeg o fewn ysgol ar hyn o bryd. Pe bai data ar gael i fesur Deilliant 3 fesul ysgol byddai posibliadau eraill.