Mae Galw Iechyd Cymru yn llinell gymorth 24 awr sydd â nyrsys yn cynnig cyngor cyfrinachol am iechyd, salwch a’r GIG. Mae i fod i gynnig gwasanaeth drwy’r Gymraeg. Erbyn hyn, pan fyddwch yn ffonio dywedir wrthych i bwyso 1 ar y ffôn os ydych yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae ystadegau am faint o alwadau sy’n cael eu gwneud, ac faint o’r galwadau sy’n cael eu hateb, yn cael eu cyhoeddi. a’r ystadegau hynny’n cynnwys faint a ofynnodd am wasanaeth Cymraeg a faint o’r rheini a gafodd eu hateb.
Mae union drefniadaeth Galw Iechyd Cymru wedi newid sawl gwaith. Nodir un o’r rhai mwyaf sylweddol yn y siart canlynol, sef nad yw Galw Iechyd Cymru’n gyfrifol ers Ebrill 2011 am ateb galwadau y tu allan i oriau i feddyg teulu yng Ngwynedd a Môn. Tan hynny roedd nifer y galwadau Cymraeg wedi bod yn cynyddu ac yn agos at fil y mis yn cael eu gwneud. Ers Ebrill 2011, mae’r nifer wedi gostwng yn sylweddol iawn. Dywedir y gwnaed newidiadau i’r system ffôn yn ystod chwarter cyntaf 2013 a rhybuddia Llywodraeth Cymru “mae’n ynddangos nad yw pob galwad ffôn Cymraeg yn cael ei nodi [yn alwad Cymraeg]”. Erbyn hyn ymddengys y gwneir llai na 200 o alwadau y mis yn Gymraeg (os yw’r ffigurau’n gywir). Dylid sylwi y defnyddir graddfa log ar yr echelin-y ar y chwith fel y gellir dangor y galwadau Cymraeg ar yr un siart â chyfanswm y galwadau sydd o gwmpas 25 mil y mis. Yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15 0.7% o’r holl alwadau a wnaed oedd yn y Gymraeg. (Ffynhonell: Iaith fyw: iaith byw. Strategaeth y Gymraeg 2012-17. Adroddiad blynyddol 2014-15, tud. 40)
Ffynhonnell: StatsCymru
Mae’r siart nesaf yn edrych ar safon y gwasanaeth, sef pa ganran o’r galwadau a wneir sy’n cael ei hateb gan ‘Galw Iechyd Cymru’. Unwaith eto, nodir ar y siart newid sylweddol a wnaed i’r gwasanaeth. Hyd at ddiwedd 2012 roedd llai o alwadau Cymraeg yn cael eu hateb o’u cymharu â’r holl alwadau. Ers dechrau 2013, dywedir bod bron pob galwad Cymraeg wedi bod yn cael ei ateb.
Ffynhonnell: StatsCymru