Mae’r map canlynol yn dangos, fesul ardal gynnyrch (“output area” Cyfrifiad 2021), symudiadau siaradwyr Cymraeg ar ddiwrnod gwaith. Mae wedi ei gyfrifo drwy gymharu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth breswyl â’r nifer yn yr un ardal ar ddiwrnod gwaith. Gellir gweld yr ardaloedd lle cyflogir nifer fawr o’i chymharu â’r nifer sy’n preswylio yn yr ardal. Yn aml, lleoliad ysbyty, prifysgol, swyddfa fawr neu ystâd fusnes sydd yn tynnu’r bobl i mewn.
Wrth gwrs dim ond ardaloedd sy â nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt sy’n gallu profi gostyngiad mawr (all-lif) o siaradwyr Cymraeg. Dyna pam y gwelir yr ardaloedd coch, oren a melyn yn bennaf yn y gogledd a’r de-orllewin. Mae’r ardaloedd sy’n denu nifer fawr o siaradwyr Cymraeg wedi eu dosbarthu’n ehangach, gan fod modd iddynt gael nifer fawr drwy dynnu nifer fach o lawer o ardaloedd cynnyrch sy â nifer fechan o siaradwyr Cymraeg. Ym Mro Morgannwg, er enghraifft, mae’r ward lle mae ysbyty Llandochau i’w weld; ym Merthyr mae Gurnos, lle mae ysbyty, ac yn y blaen.
Gan fod Cyfrifiad 2021 wedi ei gynnal adeg pandemig Covid pan allai patrymau teithio i’r gwaith wedo eu heffeithio, a phatrymau gwaith wedi newid eto o bosibl ers hynny, gallai darlun heddiw fod rhywfaint yn wahanol eto.
Nid yw’r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn symud i mewn i ardal i weithio o reidrwydd yn golygu fod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn yr ardal yn cynyddu. Er enghraifft, yn ardal ysbyty Bronglais, ward Aberystwyth Morfa a Glais, cafwyd lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, er bod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn symud yno.
Gellir clicio ar y map i weld manylion.
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, tablau WD007 a TS033.