Dehongli canlyniadau Cyfrifiad 2021

F’erthygl yng nghylchgrawn Barn gyhoeddwyd ym mis Chwefror am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg. Nid fi ddewisodd y pennawd.

Erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn, Chwefror 2023

Erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn, Chwefror 2023

Cyfeiriwch at y tudalen canlynol i archwilio canlyniadau 2021 a 2011 fesul awdurdod lleol:
% yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl awdurdod lleol a grŵp oed hyblyg

Amcangyfrifon poblogaeth Ceredigion

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi erthygl sy’n edrych ar y gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon maint y boblogaeth a wnaed cyn Cyfrifiad 2021 â chanlyniadau’r cyfrifiad ei hun ac fe edrychwyd yn arbennig ar Geredigion. Dyma’r siart a gynhyrchwyd ganddynt:

Dyma ddolen at erthygl y SYG:
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/articles/reconciliationofmidyearpopulationestimateswithcensus2021atlocalauthoritylevel/2023-03-02

Gweler hefyd fy nghofnod blaenorol ar ragolygon Cyfrifiad 2021:
Rhagolygon yr iaith yng Nghyfrifiad 2021

Rhagolygon yr iaith yng Nghyfrifiad 2021

Rwyf wedi llunio tudalen sy’n bwrw golwg ar ganlyniadau diweddar Cyfrifiad 2021 am y boblogaeth ac wedi gwneud ychydig o symiau syml i ddyfalu sut ganlyniadau gawn ni am yr iaith pan gyhoeddir y canlyniadau cyntaf am y Gymraeg yr wythnos nesaf. Gweler https://statiaith.com/cymraeg/cyfrifiad2021/rhagolygon_yr_iaith.html

#Cyfrifiad 2021 #Cymraeg

Treialon tai haf

Llythyr agored i gylchgrawn Barn

Annwyl Olygyddion,

Eglurodd Simon Brooks (Barn, Awst 2021) pam ei fod yn argymell (yn ei adroddiad diweddar i Lywodraeth Cymru Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru)  y dylai Llywodraeth Cymru gynnal treial cyn cyflwyno, mewn cyfraith gynllunio, dosbarth defnydd newydd ar gyfer ail gartrefi. Ysgrifennodd i Barn fel y ceid trafodaeth iach ar y fater. Gobeithiaf innau y bydd fy sylwadau’n ysgogi meddwl dyfnach eto ar y pwnc.

Yn gyntaf, rwy’n teimlo fod yn rhaid gosod nod clir i’r treial a phenderfynu ar feini prawf penodol, mesuradwy, cyn cychwyn. Hynny yw, mae eisiau ymhelaethu ar awgrym yr adroddiad y ‘Dylid monitro’r treial o ran mynediad pobl leol i’r farchnad dai, newidiadau o ran nifer yr ail gartrefi …, yr effaith ar y Gymraeg yn lleol, a’r effaith o ran prisiau tai.’ Rhaid penderfynu ar union ystyr ‘mynediad pobl leol i’r farchnad dai’ (a’r elfennau eraill). Sut y cânt eu mesur?, ac yn blaen. Mae’n debyg y cymerai cyfnod go maith i weld effaith newid polisi. Rhaid penderfynu ymlaen llaw hefyd felly am ba hyd y pery’r treial.

Elfen arall a awgrymir am y treial yw y ‘Gellid ei gynnal mewn cymuned neu glwstwr o gymunedau yr effeithir yn ddwys arnynt gan ail gartrefi…’ a monitro’r canlyniadau ‘…yn y gymdogaeth mewn cyferbyniad ag ardaloedd eraill lle na weithredir yr arbrawf’. Wedyn ceir: ‘Gwynedd fyddai’r lle priodol i gynnal treial fwy na thebyg. Mae’n siŵr hefyd mai’r lleoliad gorau yng Ngwynedd fyddai cymuned, neu glwstwr o gymunedau, arfordirol lle mae ffactorau megis pryder am y Gymraeg, prisiau tai uchel, dwysedd o ran ail gartrefi.’

Yn ail felly, rhaid penderfynu ar yr ardaloedd lle gweithredir y polisi, a phenderfynu ymlaen llaw ar yr ardaloedd y gwneir y cyferbyniad ag hwy, hynny yw, ardaloedd lle na chaiff y polisi newydd ei weithredu ond sy’n debyg o ran ffactorau eraill. Er enghraifft, pe bai’r polisi newydd yn cael ei dreialu yn Nefyn ond ddim, e.e., ym Mhistyll, hwyrach y gallai cymharu sefyllfa Nefyn â sefyllfa Pistyll wedyn fod yn deg. Sylwer na fydd dim modd treialu’r polisi newydd ymhob ardal lle gallai fod yn fanteisiol neu fydd dim modd gwneud cymhariaeth deg. Dylid dewis ardaloedd y treial, a’r ardaloedd a ddefnyddir yn y gymhariaeth, gan ddefnyddio’r data sydd ar gael amdanynt i geisio sicrhau eu bod yn ardaloedd tebyg ar y cychwyn. Cam ystadegol yw hwn, nid un i’w gymryd yn ôl ystyriaethau gwleidyddol.

Yng ngeiriau’r adroddiad eto gallai newid y gyfraith gynllunio arwain at ‘anfantais bosib hefyd, sef y gallai tai annedd presennol golli tipyn lew o’u gwerth tra byddai ail gartrefi presennol yn codi yn eu gwerth’ a ‘Pobl leol at ei gilydd fyddai perchnogion eiddo yn y farchnad gyntaf…’. A gawn gyfraniad deallus gan y pleidiau gwleidyddol a’r mudiadau iaith ynglŷn â hynny?

I rai sydd am ystyried y syniad o dreialu ymhellach, argymhellwn ddarllen Test, Learn, Adapt: Developing Public Policy with Randomised Controlled Trials 

Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Yn gynharach eleni cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y pwnc hwn. Eglurodd eu dogfen ymgynghori eu bod wedi comisiynu

“panel arbenigol o arbenigwyr iaith Gymraeg ac addysg, dan arweiniad cyn Brif
Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, i adolygu’r categorïau presennol o
ysgolion yn ôl darpariaeth y Gymraeg ac i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar
gyfer gwella effeithlonrwydd a chysondeb categorïau iaith ysgolion”

a’u bod wedi derbyn adroddiad ganddynt ym mis Rhagfyr 2019.  Roedd yr adroddiad hwnnw yn ei dro yn egluro eu bod wedi

“comisiynu Yr Athro Colin Baker, sy’n arbenigwr rhyngwladol mewn dwyieithrwydd, addysg ddwyieithog ac mewn astudiaethau ystadegol, i graffu’n fanwl ar ddata PLASC* yng Nghymru. Y bwriad yn y fan hon, wrth ddadansoddi’r data, oedd gweld a oedd y data’n dangos gwahanol ddulliau y gellid eu hystyried o glystyru neu gategoreiddio ysgolion yng Nghymru a hynny ar sail y data cyfredol a gesglir.”

* PLASC = Pupil Level Annual School Census / CYBleD Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol lefel Disgybl

Er bod yr adroddiad yn cyflwyno peth o’r gwaith a wnaed doedd adroddiad Yr Athro Baker ei hun ddim wedi ei gyhoeddi. Gwnes Gais Rhyddid Gwybodaeth i’w gael ac fe ddaeth y wybodaeth i law yr wythnos hon. Gellir gweld y cais a’r ymateb drwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.whatdotheyknow.com/cy/request/adroddiad_a_data_a_ddefnyddiwyd

Modelu’r Gymraeg

Cafodd bapur academaidd gryn sylw yn y Wasg yn ddiweddar gydag adroddiadau amdano’n ymddangos yn y New Scientist, Nation.Cymru, y BBC, y Telegraph ac hyd yn oed y Daily Mail, ymhlith eraill, mae’n siŵr. “Whole nation ‘could speak Welsh’ within 300 years” oedd pennawd gwirion adroddiad y BBC. Dyma ychydig o gefndir, yn y gobaith y bydd rhannu ychydig o wybodaeth am dechnegau modelu yn y pendraw yn gwella safon y drafodaeth gyhoeddus ar waith fel hwn.

Model mathemategol oedd sail y papur. (Dydw i ddim am geisio egluro y gwahaniaeth rhwng model mathemategol a model ystadegol. Ymchwiliwch ar y we. Cafodd ei drafod yn ddiweddar gan Saltelli, A. A short comment on statistical versus mathematical modelling. Nat Commun 10, 3870 (2019). Os am eglurad manwl efallai hoffech fwrw golwg ar https://www4.stat.ncsu.edu/~davidian/stma810c/lectures/integrating.pdf.)

Erbyn hyn, mae cryn nifer o ymchwilwyr wedi defnyddio’r Gymraeg wrth geisio datblygu modelau mathemategol o sut mae nifer neu ganran siaradwyr iaith yn newid, a hynny am fod mwy o ddata ar gael am y Gymraeg na’r rhan fwyaf o ieithoedd sy dan fygythiad. Er bod mwy o ddata am y Gymraeg, dydy hynny ddim yn golygu fod digon o ddata ar gael i ddatblygu model dibynadwy,

Dyma rai papurau lle mae’r Gymraeg wedi ei defnyddio, yn ôl dyddiad:

1, Abrams, D., Strogatz, S. Modelling the dynamics of language death. Nature 424, 900 (2003) doi:10.1038/424900a https://www.math.uh.edu/~zpkilpat/teaching/math4309/project/nature03_abrams.pdf

Cafodd y papur yma sylw mawr ac esgorodd ar nifer o’r papurau canlynol a geisiodd ddatblygu’r model syfaenol a oedd, yng ngeirau’r awdurdon, yn trin “… languages as fixed, and as competing with each other for speakers. For simplicity, we also assume a highly connected population, with no spatial or social structure, in which all speakers are monolingual.”

Daw’r ffigur isod o’r papur. Fel sy’n gyffredin i’r maes hwn, defnyddiwyd hafaliadau differol i fodelu eu syniadau hwy o’r ffactorau oedd yn achosi i’r gyfan y siaradwyr newid. Roedd yn rhaid iddynt amcangyfrif  c, s, a ac x(0)  yn eu hafaliad:
Pyx(x,s)= cx^a s
Pxy(x,s)=c(1-x)^a (1-s)

I wneud hynny, defnyddiwyd ychydig iawn o bwyntiau data o gyfrifiadau hanesyddol a Chyfrifiad 1991, sef yr un diweddaraf oedd ag gael iddynt ar y pryd. Yn ôl eu dehongliad hwy o’r paramedr ‘s’, roedd yn cynrychioli statws. O gymharu â Gaeleg yr Alban (Ffigur 1 a) a Quechua (Ffigur 1 b) felly, roedd y Gymraeg yn elwa drwy fod ganddi statws uwch na’r rheini.

Ffigur 1 o bapur Abrams a Strogatz

Ffigur 1 o bapur Abrams a Strogatz

2. Sankoff, D. (2008). ‘How to predict the evolution of a bilingual community’, in Meyerhoff, M.
and Nagy, N.(eds.), Social Lives in Language – Sociolinguistics and Multilingual Speech
Communities Celebrating the Work of Gillian Sankoff, University of Edinburgh/University of
Toronto.

Nid model hafaliadau differol ddefnyddiodd Sankoff ond methodoleg carfan demograffig. Ar ôl amcangyfrif y ganran o bobl oed x ym mlwyddyn t, defnyddiwyd honno yn sail i amcangyfrif y ganran ymhlith yr un bobl – a fyddai’n x+1 oed erbyn hynny – yn y flwyddyn ganlynol (t+1) . Addasiad o hwn a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru wrth lunio amcanestyniadau a’r hyn a alwasant yn ‘daflwybr’ at y targed o filiwn o siaradwyr yn eu strategaeth. Gweler Amcangyfrifon siaradwyr Cymraeg 2011 i 2050: adroddiad technegol.

Sankoff_Ffig 1

Sankoff_Ffig 1

Roedd yn dda gweld rhywun o brifysgol yng Nghymru – John Wyburn o Brifysgol De Cymru – yn cyfrannu at y maes yn y ddau bapur isod:

3. Wyburn, J,, Hayward, J. (2008) The Future of Bilingualism: An Application of the Baggs and Freedman Model, The Journal of Mathematical Sociology,32:4,267-284, DOI: 10.1080/00222500802352634

a

4. Wyburn, J,, Hayward, J. (2009) OR and language planning: modelling the interaction between unilingual and bilingual populations. Journal of the Operational Research Society, 2009, Volume 60, Number 5, Page 626 https://rdcu.be/b0xKe

Defnyddiwyd model tebyg i Abrams a Strogatz yn y papur cyntaf ac un dynameg system a methodoleg ymchwil gweithredol (OR) yn yr ail. Rhoddodd yr ail y crynodeb defnyddiol canlynol o’r maes adeg ysgrifennu’r papur:

“To date attempts to model the interaction of language-defined populations have relied on ordinary differential equations (ODEs). In particular Baggs and Freedman (1990) is much cited, and subsequent examinations of the problem (Baggs and Freedman, 1991, 1993; El-Owaidy and Ismail, 2002) are elaborations on this seminal paper. Abrams and Strogatz (2003), while not acknowledging Baggs and Freedman, adopt a similar approach. …. All such ODE-based models are limited in several ways. Their terms tend to be ‘black boxes’ obscuring the true
mechanisms of change;. …; and they are concerned with the long-term attainment of equilibria,
perhaps over centuries, during which time their parameters are unlikely to remain constant. For these reasons, and their inaccessibility to non-mathematicians, they are of limited use to the social planners, politicians, educational reformers, applied linguists, and market analysts to whom their predictions are of interest.”

5. Minett, J.W., Wang, W.S-Y. (2008) Modelling endangered languages: The effects of bilingualism and social structure. Lingua .188(1), 19-45. doi:10.1016/j.lingua.2007.04.001

Er i’r rhain grybwyll y Gymraeg wrth iddynt gyfeirio at waith Abrams a Strogatz, ni chafodd ei modelu ganddynt. Yn wir, er iddynt estyn fformula Abrams  fel y gallai “account for a number of factors that influence language competition and maintenance, including language status, proportions of speakers, population size, and the availability of monolingual and bilingual educational resources”, ni cheisiasant ffitio eu model i’r un iaith arall chwaith. Dylwn nodi fodd bynnag eu bod wedi defnyddio techneg arall, Yn ogystal â hafaliadau differol, defnyddion nhw efelychiadau yn seiliedig ar asiant. Gweler https://en.wikipedia.org/wiki/Agent-based_model os am wybod mwy am y dechneg.

6. Anne Kandler, Roman Unger and James Steele (2010) Language shift, bilingualism and the future of Britain’s Celtic languages.Phil. Trans. R. Soc. B 2010 365, 3855-3864 https://royalsocietypublishing.org/doi/full/10.1098/rstb.2010.0051

Unwaith eto, gadawaf i’r awduron egluro eu gwaith:

“We model the dynamics of language shift as a competition process in which the numbers of speakers of each language vary as a function both of internal recruitment (as the net outcome of birth, death, immigration and emigration rates of native speakers), and of gains and losses owing to language shift. Mathematical work on language shift dynamics has been stimulated by Abrams & Strogatz (2003), who proposed a simple two-language competition model in which the outcome (extinction of one or other language) is determined by the strength of innate
attraction to the higher status language and by the initial conditions (with preferential attachment—the nonlinear effect of initial concentrations on shift rates—capable of driving the higher status language to extinction when its speakers are rare). Our own basic model is very different. In addition to the status-related shift term, we model the changing sizes of speaker sub-populations as the balance of births and deaths, and of immigration and emigration, and
we model a bilingual transition state.”

Gan eu bod wedi cynnwys siartiau yn benodol i’r Gymraeg, cystal eu dangos yma. Mae Ffig.3(b) dipyn y fwy calonogol na 3(a) ond rhaid i chi droi at y papur am fanylion.

Ffigur 3 o Kandler

Ffigur 3 o Kandler

7. Menghan Zhang,Tao Gong (2013). Principles of parametric estimation in modeling language competition. 9698–9703.Proceedings of the National Academy of Sciences PNAS, 110(24) https://doi.org/10.1073/pnas.1303108110

Fe nodwyd diffygion model Abrams a Strogatz, a’u paramedr s a briododlwyd, fel y soniais uchod, i ‘statws’:

“…this abstract parameter lacked explicit sociocultural meanings; it remained unclear what were the characteristics of a language having a prestige value, say 1.2, and what was the sociocultural condition corresponding to the difference between two languages having prestige values, say 1.2 and 1.3, respectively. Lacking such empirical foundations, the prestige value had to be obtained via curve fitting, thus making this model useless in cases lacking sufficient empirical data.”

Aethon ymlaen felly:

“we define two concrete parameters, namely the impacts and inheritance rates of competing languages, and adopt the Lotka–Volterra competition model … in evolutionary biology  to study the dynamics of language competition. Meanwhile, we propose a language diffusion principle and two language inheritance principles to calculate these parameters based on the relevant data of population censuses and language surveys. The language diffusion principle, inspired by Fourier’s law of heat conduction, computes the impacts of competing languages from the population sizes of these languages and the geographical distances between the region where competition occurs and the population centers of these languages. …”

Ffig.1 o Menghan Zhang,Tao Gong

Ffig.1 o Menghan Zhang,Tao Gong

8. Isern N, Fort J. (2014). Language extinction and linguistic fronts. J. R. Soc. Interface 11: 20140028. http://dx.doi.org/10.1098/rsif.2014.0028

Cafodd y Gymraeg le blaenllaw yn y papur hwn er iddynt erbyn y diwedd ddweud “…the linguistic policies applied in Wales since the 1970s seem to have been able to raise the status of Welsh and stabilize (see figure 2d after 1971) and even reverse the languages shift (after 2001
[30,42]). In that sense, the data for the Welsh language after “1971 should probably have been omitted from the analysis” oherwydd eu bwriad oedd i:

“…define a new language competition model that can describe the historical decline of minority languages in competition with more advantageous languages. We then implement this non-spatial model as an interaction term in a reaction–diffusion system to model the evolution of the two competing languages. We use the results to estimate the speed at which the more advantageous language spreads geographically, resulting in the shrinkage of the area of dominance of the minority language. We compare the results from our model with the bserved retreat in the area of influence of the Welsh language in the UK, obtaining a good agreement between the model and the observed data.”

9. Wyburn, J. (2018) Media pressures on Welsh language preservation, The Journal of Mathematical Sociology,42:1,37-46, DOI: 10.1080/0022250X.2017.1396984 https://pure.southwales.ac.uk/files/1558311/JMS_JWyburn_Media_Pressures_17.pdf

Cyflwynwyd “a model explicitly addressing the interaction and evolution of populations distinguished by their language use, within modern Wales…” a’r model yn un epidemiolegol.  Defnyddiodd elfen o waith Kandler ynddo.

Yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o bapurau sydd wedi eu rhestru yma, daeth i gasgliad gwahanol iawn: “The model can be tested against census data (HMSO 1991–2011) as in Figure 5 [isod]. Values…adequately reproduce the observed behavior.
The recent fall is symptomatic of a rapid decline in the number of Welsh speakers, and effective
extinction in 60 years, i.e., by 2051.”

Fig5 Wyburn 2018

Fig5 Wyburn 2018

10. Sperlich, S., Uriarte, J-R.,(2019) The economics of minority language use: theory and empirical evidence for a language game model
https://arxiv.org/pdf/1908.11604.pdf

“We study three modern multilingual societies -the Basque Country, Ireland and Wales- which are endowed with two, linguistically distant, official languages: A, spoken by all individuals, and B, spoken by a bilingual minority. In the three cases it is observed a decay in the use of minoritarian B, a sign of diversity loss. However, for the Council of Europe the key factor to avoid the shift of B is its use in all domains. Thus, we investigate the language choices of the bilinguals by means of an evolutionary game theoretic model. We show that the language population dynamics has reached an evolutionary stable equilibrium where a fraction of bilinguals have shifted to speak A. Thus, this equilibrium captures the decline in the use of B…. ”

Rwy’n gweld defnyddio’r model gêm yn ddiddorol ac yn berthnasol. Fe eglurir:

“We seek to understand the data of B use. To this end, we model the strategic manner by which the members of bilingual population choose, at the beginning of an interaction, the language to use with the interactive partners….” ….

“…the bilinguals’ language strategic behaviour is captured by the following pure strategies of bilinguals:
R: Reveal always your type, so that you will speak B whenever you meet a bilingual.
H: Hide your type, and reveal it only when matched with an R-player. That is, speak A, and switch to B only when you are addressed in B.”

Mae llawer o fathemateg yn y papur ond mae hefyd yn ceisio dangos perthynas y model at bolisïau ymarferol, e.e. bathodynau Iaith Gwaith, ac fe ddylai peth o resymu’r papur fod o ddiddordeb i gynllunwyr iaith yn y byd go iawn.

Gobeithio y bydd yr adolygiad byrfyfyr yma o faes modelu mathemateg mewn perthynas â’r Gymraeg o ddefnydd i rywun hefyd.


Dyma fanylion y papur a’m hysgogodd i ysgrifennu’r llith yma:

Barrett-Walker T, Plank MJ, Ka’ai-Mahuta R, Hikuroa D, James A.(2019) Kia kaua te reo e rite ki te moa, ka ngaro: do not let the language suffer the same fate as the moa. J. R. Soc. Interface 20190526. http://dx.doi.org/10.1098/rsif.2019.0526

Ymgynghoriad y Llywodraeth “Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol”

Dydw i ddim am gynnig sylwadau manwl ar yr ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/cenhadaeth-ein-cenedl-cwricwlwm-gweddnewidiol. O safbwynt cynhyrchu ystadegau ystyrlon yn y dyfodol am dwf addysg Gymraeg, mae braidd yn debyg i Brexit. Os ydych yn mynnu bwrw ymlaen â’r cynllun gwallgof, y ffordd orau yw cychwyn o’r newydd eto.

Os derbynnir y cynigion presennol, anodd gweld sut y ceir eto darlun cyson ar draws Cymru o faint o blant sy’n cael addysg Gymraeg. Fydd dim modd cynhyrchu’r math o ddadansoddiadau sydd wedi eu cyflwyno ar Statiaith, e.e. Asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol. Ac anodd hefyd gweld sut y gellir categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith, heb fod y data yn cael ei gasglu mewn ffordd gyson.

Mae byd cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i’w weld yn trafod y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel nod realistig. Dydy e ddim. Siawns y bydd cynigion presennol y Llywodraeth yn sicrhau na fydd gan neb fyth syniad o fath yn y byd ble byddwn ni ar y daith, i fyny neu i lawr, beth bynnag.

Datgelu data awdurdodau lleol am ‘dwf’ addysg Gymraeg

Eleni, am y tro cyntaf am bron ugain mlynedd, ni chyhoeddodd y Llywodraeth ddata fesul awdurdod lleol am y nifer o blant a aseswyd mewn Cymraeg gan athrawon fel rhan o drefniadau asesu’r cwricwlwm cenedlaethol. Bu’n rhaid gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth i’w ddatgelu fel a ofnwyd pan gyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’r cefndir i’w weld yma.

Cyhoeddwyd y data cenedlaethol ar 8 Awst. Mae’r siart canlynol yn dangos y canlyniadau hynny.

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2018

% y disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg, yn ôl Cyfnod Allweddol, 1999 at 2018

Tynnwyd sylw eisoes mewn man arall ar y wefan hon at ganlyniadau 2018 y Cyfnod Sylfaen (ar blant 7 oed yn fras):  mewn sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg. Nawr, cawn weld y sefyllfa ar leol awdurdodau lleol. Gwaethygodd y sefyllfa yn y mwyafrif o awdurdodau: gostyngodd y ganran ers 2017 mewn 13 awdurdod allan o’r 22 sydd gennym: https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadaur-cyfnod-sylfaen/ 

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, cynyddodd y ganran a aseswyd mewn Cymraeg mewn 11 awdurdod ond gostyngodd yn yr 11 awdurdod arall: https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadau-cyfnod-allweddol-2/ 

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, bu cynnydd mewn 10 awdurdod a gostyngiad mewn 8 (mae pedwar awdurdod lle nad oes unrhyw ddarpariaeth o fewn yr awdurdod): https://statiaith.com/blog/addysg/ysgolion/asesiadaur-cwricwlwm-cenedlaethol/asesiadau-cyfnod-allweddol-3/ 

Mae peidio â chyhoeddi’r data’n rheolaidd yn gam mawr yn ôl. Rhaid i’r data hyn gael eu cyhoeddi a chael sylw, i bawb gael deall sefyllfa’r Gymraeg mewn addysg – a’r tueddiadau.

Ceisio cael gafael ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Mae’r Llywodraeth yn dweud yn aml bod data am y Gymraeg i’w weld yng nghynlluniaiu strategol y Gymraeg mewn addysg. Gweler er enghraifft eu hymateb i’r ymgynghoriad a drafodwyd gan Statiaith o’r blaen: https://statiaith.com/blog/barn/ymatebion-i-ymgynghoriad-y-llywodraeth/ Ond a geisioch gael gafael ar y cynlluniau hynny? Gofynnais i’r Llywodraeth ddarparu copi o’r rhai a gymeradwywyd ganddynt a dyma’r ateb anfoddhaol a gefais: https://www.whatdotheyknow.com/request/cynlluniau_strategol_y_gymraeg_m#incoming-1162732

Pam ydw i’n ystyried yr ateb yn anfoddhaol? Yn amlwg, ni roddwyd y wybodaeth a geisiais ond mae hefyd yn amlwg fod gan y Llywodraeth yr hyn y bûm yn ei geisio. Yn hytrach nag ei wneud yn hwylus i neb weld y cynlluniau, maent yn ei wneud yn anodd. Cymerodd gryn amser i gyrchu’r cynlluniau canlynol o wefannau’r awdurdodau ond ni allaf fod yn sicr mai dyma’r fersiynau a gymeradwywyd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dweud mai drafftiau ydynt. Os cofiaf yn iawn nid oes yr un yn dweud i’r drafft gael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth. A ni chofiaf chwaith gweld dim ar yr un o’r gwefannau yr ymwelais â nhw a oedd yn sôn o gwbl bod y cynllun wedi ei gymeradwyo.

Byddaf yn gofyn i’r Llywodraeth ail-ystyried ac i sicrhau y cyhoeddir pob cynllun a gymeradwyir ar ei gwefan ei hun yn y dyfodol.

DIWEDDARIAD 31 Gorffennaf 2018

Fe lwyddodd y cais Rhyddid Gwybodaeth ar apêl. Dyma ddolen at y 15 cynllun a ddarparodd y Llywodraeth: https://www.whatdotheyknow.com/request/cynlluniau_strategol_y_gymraeg_m#incoming-1196832

Ynys Môn

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerffili

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Gwynedd

SIr Benfro

Powys

Rhondda Cynon Taf

Wrecsam

Caerdydd

Diweddariad arall: ar 15 Awst 2018 ymrwymodd y Gweinidog i gyhoeddi dolen at gynlluniau’r holl awdurdodau pan fyddant wedi eu cymeradwyo: http://www.assembly.wales/written%20questions%20documents/information%20further%20to%20written%20assembly%20question%2076888/180724-76888-w.pdf

Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a drafodwyd yn y blogiad blaenorol: https://statiaith.com/blog/barn/llywodraeth-cymru-am-gelu-data/ Yn eu hymateb i Gwestiwn 6 yr ymgynghoriad ar dudalennau 15-16 y maent yn egluro eu bwriad ynglŷn â data am y Gymraeg. Yn benodol dywedir:

“Byddwn yn parhau i gyhoeddi’r canlynol ar lefel genedlaethol ac ar gyfer
ysgolion ac awdurdodau lleol;
– data o’r Cyfrifiad Ysgolion ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a rhuglder yn y
Gymraeg
– canlyniadau arholiadau cyhoeddus ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith ar
lefel TGAU ac uwch
– nifer yr asesiadau athrawon ar gyfer Cymraeg fel pwnc

Hwyrach bod ymateb y cyhoedd wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth felly ond nid yw cyhoeddi nifer yr asesiadau Cymraeg (iaith gyntaf) yn ddigonol. Rhaid cael gwybod cyfanswm nifer y plant sy’n cael eu hasesu er mwyn cyfrifo’r canrannau sy’n dangos a oes cynnydd neu grebachu. Mae’n aneglur a fydd y data yna’n cael ei gyhoeddi. Cawn weld ymhen y rhawg beth yn union a ddaw, ac a fydd angen gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth yn rheolaidd i gael hyd i’r data.