Tag Archif: adroddiad

Adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan Aled Roberts

Dyma ychydig o sylwadau ar bwnc data eto.

Yn ei adroddiad mae Aled Roberts yn dweud:

“1.25 Yn y lle cyntaf, nodaf nad oes Deilliant yn bodoli ynghylch darpariaeth
cyn-ysgol. Credaf ei fod yn angenrheidiol cyflwyno deilliant sy’n
canolbwyntio ar dwf strategol mewn darpariaeth cyn-ysgol. Gan fod
Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno targedau cenedlaethol ar gyfer twf
yn y sector, mae’n rhaid cael deilliant fydd yn mesur a dadansoddi
cynlluniau’r awdurdodau lleol, Mudiad Meithrin ac eraill yn lleol.
Byddai’r twf hynny yn dylanwadu ar y targedau sydd eu hangen yn y
Deilliant 1 presennol.” (tud. 7)

Ymhellach ymlaen wrth drafod y blynyddoedd cynnar mae’n nodi:

“1.59 Mae cwestiynau yn codi ynghylch dilysrwydd llawer o’r data sydd yn
cael ei baratoi bydded hynny o ran niferoedd o fewn y sector cyn-ysgol
ac os yw rhai plant yn cael eu cyfrif mwy nag unwaith, ansawdd y data
sydd yn cael ei dderbyn o ran Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant a
hyd yn oed data PLASC ynghylch natur y ddarpariaeth ieithyddol mewn
ysgolion unigol.” (tud.12)

(Mae’r siart ar y tudalen newydd yma yn dangos cyfresi amser o’r niferoedd o gylchoedd meithirn a Ti a Fi ac fe nodir mai amcangyfrifon yn unig sy ar gyfer 2013 a 2014. Mewn trydariad yn ymateb i’r siart yna mae’r Mudiad Meithrin yn nodi un rheswm pam y gallai nifer y cylchoedd fod wedi gostwng yn ddiweddar.)

Cyfeiria Aled at ddata yn un o’i argymellion:

“9. Sicrhau natur a dilysrwydd data sy’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru. Dylai hyn arwain at adnabyddiaeth fuan ac effeithiol o unrhyw
batrymau yn y data sydd yn awgrymu pryderon mewn
prosiectau/rhaglenni yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. ” (tud.17)

Mae hyn i gyd yn amserol oherwydd bod strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth yn dweud bod y Llywodraeth am weld “…cynnydd cyflym drwy ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg i 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf…” (tud. 36). Mae Rhaglen Waith 2017-21 yn dweud y byddant yn “ceisio cefnogi’r gwaith o ehangu sector Cymraeg y blynyddoedd cynnar drwy greu 40 grŵp meithrin newydd erbyn 2021”. (tud.4)

Ond ble mae’r waelodlin? Dydy ystadegau’r Mudiad Meithrin ddim yn cynhwysfawr: mae’r ddarpariaeth yn ehangach na darpariaeth y Mudiad. Dylai’r Llywodraeth fod yn cyhoeddi ffigurau cynhwysfawr. (Ac a chyfeirio at argymhelliad 9 Aled, mae eisiau i’r data sy’n cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth gael ei gyhoeddi fel data agored.)

Roedd gwella’r sefyllfa o ran data’r blynyddoedd cynnar yn un o Amcanion Strategol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Ymhlith pethau eraill soniwyd y byddai disgwyl i “darparwyr neu eraill mewn partneriaeth â chyrff arweiniol” weithredu a’r “…rhai sy’n cynnig darpariaeth y blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y sector nas cynhelir i gydweithio ag ALlau a LlCC i adnabod problemau a bylchau posibl yn y ddarpariaeth.” Ond hyd heddiw dydy’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ddim yn cyhoeddi dim am ddarpariaeth Gymraeg hyd y gwelaf: http://cssiw.org.uk/terms-and-conditions/ourdata/?lang=cy

Does dim gwelliant wedi digwydd.

Mae’n rhaid ymdrin â’r broblem ddata os oes cynllunio call i fod.