Tag Archif: AGGCC

Data Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Ar 22 Tachwedd cyhoeddoedd Comisiynydd y Gymraeg Nodyn Briffio: Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg. Bydd hwn ymhlith y papurau y bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfatrebu y Cynulliad yn derbyn i’w nodi ar 6 Rhagfyr.

Mae’r nodyn, ar ôl dweud bod ‘[y] darlun cenedlaethol a lleol o ofal plant cyfrwng Cymraeg yng Nghymru yn dameidiog, yn anghyson, ac yn gymhleth i’w ddehongli’ yn cyflwyno’r tabl isod:

Ffigur 2 o Nodyn Briffio Comisiynydd y Gymraeg

Ffigur 2 o Nodyn Briffio Comisiynydd y Gymraeg

Mae’r rhain yn deillio o’r ‘Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth’ y mae pob darparwr yn ei gyflwyno i’r Arolygiaeth. Ymwelais â gwefan yr Arolygiaeth i geisio gweld y ffurflen ond methais â dod o hyd iddi. Methais hefyd â dod o hyd i unrhyw ystadegau am y ddarpariaeth Gymraeg. Mae’n debyg bod y ffurflen yn gofyn i ddarparwyr gwasanaeth defnyddio’r categorïau canlynol am eu darpariaeth:

a. Lleoliad cyfrwng Cymraeg

b. Lleoliad cyfrwng CYmraeg a Saesneg

c) Lleoliad cyfrwng Saesneg  gyda rhai elfennau dwyieithog

d) Lleoliad cyfrwng Saesneg

Mae’r Arolygiaeth yn rhyddhau peth o’r data sy ganddynt, i’w defnyddio dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Rwyf wedi defnyddio hwnnw i greu’r map isod – ond nid yw’r data yn cynnwys dim am y ddarpariaeth Gymraeg. (Dylai’r Arolygiaeth ryddhau’r data yna.) Mae’r map yn dangos 1,898 lleoliad, sef pob ‘Crèche’, ‘Darpariaethau Chwarae Mynediad Agored’, ‘Gofal Dydd Llawn’, ‘Gofal Dydd Sesiynol’, ‘Gofal Dydd i Blant’, ‘Gofal y Tu Allan I’r Ysgol’ gan hepgor y 1,950 gwarchodwr plant sy wedi eu cofrestru.

Gellir gweld ystadegau am y rhain, a manylion y rhai sydd o bosibl yn cynnig darpariaeth Gymraeg, yma.

Cafodd safon data am y blynyddoedd cynnar ei grybwyll gan Aled Roberts yn ei adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn addysg a drafodwyd yma o’r blaen. Da gweld bod Hywel Iorwerth, awdur nodyn y Comisiynydd, yn trin yr un pwnc, e.e.

‘Yn anffodus, nid oes data cyflawn a dibynadwy am faint o’r plant hyn sydd mewn gofal plant, ac mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg yn benodol’ (tud. 8);

ac wrth drafod integreiddio’r Cynnig 30 Awr â gweledigaeth y milwn o siaradwyr erbyn 2050 noda ymhlith y cwestiynau pwysig i’w gofyn:

‘Pa wybodaeth a data sydd ei angen er mwyn creu strategaeth effeithiol er mwyn cynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.’ (tud. 15).

Rhoddir adran gyfan (3.3) i drafod ‘Casglu a recordio [sic] data’ sy’n dechrau gyda’r paragraff:

‘Er mwyn llunio strategaethau cenedlaethol a lleol effeithiol, ac er mwyn gwerthuso effaith a llwyddiant y strategaethau hyn yn y dyfodol, mae’n hanfodol cael data dilys a dibynadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain y gwaith o ddiwygio’r ffyrdd o gasglu a rhannu data am ofal plant, er mwyn sicrhau bod cynlluniau a strategaethau lleol a chenedlaethol wedi’u llunio ar sail gwybodaeth y gellid ymddiried ynddi.’

Derbyniodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg ar y pryd, holl argymhellion adolygiad Aled Roberts, ar 10 Hydref 2017 mewn datganiad llafar i’r Cynulliad. Mae wir angen gweithredu i wella’r data.