Tag Archif: Ymgynghoriad

Ymgynghoriad y Llywodraeth “Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol”

Dydw i ddim am gynnig sylwadau manwl ar yr ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/cenhadaeth-ein-cenedl-cwricwlwm-gweddnewidiol. O safbwynt cynhyrchu ystadegau ystyrlon yn y dyfodol am dwf addysg Gymraeg, mae braidd yn debyg i Brexit. Os ydych yn mynnu bwrw ymlaen â’r cynllun gwallgof, y ffordd orau yw cychwyn o’r newydd eto.

Os derbynnir y cynigion presennol, anodd gweld sut y ceir eto darlun cyson ar draws Cymru o faint o blant sy’n cael addysg Gymraeg. Fydd dim modd cynhyrchu’r math o ddadansoddiadau sydd wedi eu cyflwyno ar Statiaith, e.e. Asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol. Ac anodd hefyd gweld sut y gellir categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith, heb fod y data yn cael ei gasglu mewn ffordd gyson.

Mae byd cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i’w weld yn trafod y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel nod realistig. Dydy e ddim. Siawns y bydd cynigion presennol y Llywodraeth yn sicrhau na fydd gan neb fyth syniad o fath yn y byd ble byddwn ni ar y daith, i fyny neu i lawr, beth bynnag.

Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a drafodwyd yn y blogiad blaenorol: https://statiaith.com/blog/barn/llywodraeth-cymru-am-gelu-data/ Yn eu hymateb i Gwestiwn 6 yr ymgynghoriad ar dudalennau 15-16 y maent yn egluro eu bwriad ynglŷn â data am y Gymraeg. Yn benodol dywedir:

“Byddwn yn parhau i gyhoeddi’r canlynol ar lefel genedlaethol ac ar gyfer
ysgolion ac awdurdodau lleol;
– data o’r Cyfrifiad Ysgolion ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a rhuglder yn y
Gymraeg
– canlyniadau arholiadau cyhoeddus ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith ar
lefel TGAU ac uwch
– nifer yr asesiadau athrawon ar gyfer Cymraeg fel pwnc

Hwyrach bod ymateb y cyhoedd wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth felly ond nid yw cyhoeddi nifer yr asesiadau Cymraeg (iaith gyntaf) yn ddigonol. Rhaid cael gwybod cyfanswm nifer y plant sy’n cael eu hasesu er mwyn cyfrifo’r canrannau sy’n dangos a oes cynnydd neu grebachu. Mae’n aneglur a fydd y data yna’n cael ei gyhoeddi. Cawn weld ymhen y rhawg beth yn union a ddaw, ac a fydd angen gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth yn rheolaidd i gael hyd i’r data.

 

 

Llywodraeth Cymru am gelu data

Os gweithredir cynigion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar droed ar hyn o bryd, ni fydd y cyhoedd yn gallu gweld sut mae addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu (neu’n crebachu) fesul awdurdod lleol o hyn allan. Mae data am asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol sydd wedi bod yn cael ei gyhoeddi ar wefan StatsCymru y Llywodraeth yn mynd i ddiflannu, h.y. ni fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Ym mharagraff 37 y ddogfen ymgynghori (pdf) dywedir y byddant yn “rhoi’r gorau i gyhoeddi data’n rhagweithiol ar gyfer awdurdodau lleol yn y datganiad ystadegol blynyddol ar berfformiad cenedlaethol a’r tablau StatsCymru cysylltiedig.”

Yn syml, cais i’w wneud yn anodd i’r cyhoedd gael gafael yn y data yw hwn, sy’n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor o ddata agored – ac yn gwbl groes i gynllun data agored Llywodraeth Cymru (pdf) ei hun

Mae’r data am yr asesiadau mewn Cymraeg yn sail i ddau darged sy’n cael eu gosod yng nghynllun gweithredu 2017-21 strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd y Llywodraeth (pdf).

Dangosydd 1 Cynllun Gweithredu 2017-21Dangosydd 2 Cynllun Gweithredu 2017-21

Heb ddata ar lefel awdurdod lleol ni fydd modd cadw llygad go iawn ar y cynnydd (ai peidio) at y targedau hyn. Bydd yn rhaid i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gynnwys y manylion ar lefel awdurdod lleol neu byddant yn ddiystyr. Ond prin y gellir ystyried y rheini’n ffordd addas o gyhoeddi data. (A cheisiwch chi ddod o hyd i bob un ohonynt ar y we,)

Ymatebwch erbyn diwedd mis Ionawr i ddweud wrth y Llywodraeth fod y cynnig hwn yn hollol annerbyniol. Rhaid i’r holl ddata am y Gymraeg o leiaf – y niferoedd sy’n cael eu hasesu mewn Cymraeg, a chyfanswm yr holl blant sy’n cael eu hasesu fel y gellir cyfrifio canrannau – barhau i gael ei gyhoeddi yn rheolaidd heb i rywun orfod gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth.

Dyma ffurflen ymateb ar-lein y Llywodraeth:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/node/11291/respond-online/cy

Rhannwch y neges ymhellach os gwelwch yn dda i sicrhau na fydd amheuaeth fod y cyhoedd yn gwrthwynebu’r cynnig hwn.


I chi weld defnydd y data, edrychwch ar y dadansoddiadau sydd wedi ei gyflwyno ar Statiaith sy’n dibynnu ar y data yma. Mae rhai ohonynt isod:

Asesiadau’r Cyfnod Sylfaen

Asesiadau Cyfnod Allweddol 2

Asesiadau Cyfnod Allweddol 3

http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/dilyniant_CA1Syl_CA2.html

Dilyniant CA1/CS_a_CA2 2003-17

Dilyniant CA1/CS_a_CA2 2003-17

Asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol

Bil y Gymraeg: colli data?

Mae un o’r cwestiynau a ofynnir yn ymgynghoriad y Llywodraeth ar eu papur gwyn ar gyfer Bil y Gymraeg  o ddiddordeb arbennig i Statiaith:

“13.A ydych chi’n cytuno â’n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru adrodd i’r Cynulliad ar strategaeth y Gymraeg bob pum mlynedd yn lle bob blwyddyn?”

Rwy’n gobeithio y bydd y canlynol yn ddigon i’ch argyhoeddi y dylech ymateb i’r ymgynghoriad a dweud ‘Nac ydw’ i’r cwestiwn hwnnw.

Ar hyn o bryd, o dan Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyhoeddi dau adroddiad pob blwyddyn, un ar gyflawniadau eu strategaeth Gymraeg ac un am gynllun iaith y Llywodraeth.

Pan gyhoeddwyd Strategaeth y Gymraeg 2012-17 ‘Iaith fyw: iaith byw’ , cyhoeddwyd hefyd fframwaith gwerthuso.  Pennodd y strategaeth nifer o ddangosyddion oedd i fesur llwyddiant y strategaeth ac fe amlinellodd y fframwaith sawl ffynhonnell arall o ddata a fyddai’n cael eu defnyddio i werthuso’r strategaeth. Cafodd pedwar adroddiad blynyddol ar y strategaeth  honno eu cyhoeddi (gellir eu lawrlwytho yma), a’r rheini’n adrodd ar y symud a fu – neu na fu – drwy gynnwys y dangosyddion.

Yn 2010 y cyhoeddwyd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth. Gosododd hwnnw nifer o dargedau ac adroddwyd ar y rheini mewn pum adroddiad. Roedd yr adroddiad olaf yn delio â 2014-15.

Mae adroddiadau blynyddol ar strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw wedi cynnwys dangosyddion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg hefyd a chan mai adroddiad 2014-15 oedd yr adroddiad olaf ar y strategaeth addysg, dim ond yn adroddiad blynyddol y strategaeth iaith bellach y mae ffigurau diweddarach i’w gweld am rai o ddangosyddion y strategaeth addysg.

Byddai cynnig y Llywodraeth i roi’r gorau i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn claddu’r ystadegau hyn am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n wir y byddai’r rhan fwyaf ohonynt ar gael o hyd ar wefan ystadegau’r Llywodraeth ond ni fyddent yn cael nemor dim sylw.

Adroddiad blynyddol strategaeth Iaith Fyw Iaith Byw yw’r unig gyhoeddiad swyddogol sy’n dwyn ynghyd sawl cyfres o ystadegau. Mae’r ymgynghoriad yn cyfeirio’n benodol at un ohonynt, sef ffigurau’r Ganolfan Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA yn Abertawe) ond mae llawer yn dod o sefydliadau Cymreig, gan gynnwys:  yr Urdd, Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, Mentrau Iaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Cyngor Llyfrau Cymru, Golwg 360, S4C a Radio Cymru.

Dydy’r ystadegau o rai o’r rhain ddim yn ddibynadwy iawn (a dweud y lleiaf) ond un o’r ffyrdd gorau i wella dibynadwyedd ystadegau yw cyhoeddi’r ystadegau yn rheolaidd dros gyfnod. Drwy ddwyn rhai i olau dydd, hynny yw, eu gwneud yn gyhoeddus, bydd cynhyrchwyr yr ystadegau’n aml yn dod i werthfawrogi eu pwysigrwydd ac yn cymryd mwy o ofal wrth eu rhoi at ei gilydd. Wrth gwrs, weithiau bydd y cynhyrchwyr yn ceisio dangos eu hunain yn y ffordd fwyaf ffafriol ac hynny’n gwyro’r ystadegau ond dros amser tuedda’r cyfresi ddod yn fwy sefydlog wrth i fwy o ofal cael ei roi iddynt. Byddai cynnig y Llywodraeth i roi’r gorau i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn claddu’r ystadegau. Byddai’r cyfresi’n parhau i fod yn annibynadwy, pe baent ar gael o gwbl, a ni fyddai neb yn gwybod a oedd y tueddiadau’n gwaethygu’n hytrach nag yn gwella.

Yn wahanol i Iaith Fyw: Iaith Byw, ychydig iawn o dargedau sy wedi’u cynnwys yn Cymraeg 2050, strategaeth newydd y Llywodraeth. Targed y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw’r targed sy’n adnabyddus yn barod ond gosodir rhai ar gyfer 2031 yn ymwneud ag addysg ac un i gael 150 yn rhagor o grwpiau meithrin ‘dros y ddegawd nesaf’.  Dadl y Llywodraeth yw mai

‘Strategaeth hirdymor yw Cymraeg 2050 a bydd unrhyw newidiadau yn digwydd yn
araf. Dim ond bob 10 mlynedd y caiff ein data mwyaf dibynadwy ar y cynnydd eu
casglu drwy’r Cyfrifiad, ac mae llawer o’n rhaglenni uchelgeisiol, fel newid cwricwlwm
yr ysgolion, yn cymryd sawl blwyddyn i’w datblygu, eu rhoi ar waith a chael effaith.
Golyga hyn mai ychydig iawn o gynnydd sy’n debygol o gael ei adrodd yn flynyddol
ond dylai’r cynnydd fod yn amlwg yn y tymor canolig. Yn ymarferol, bydd unrhyw
Lywodraeth Cymru newydd yn debygol o adolygu’r strategaeth a’r cynllun gweithredu
ar ddechrau pob Cynulliad, a’u hadnewyddu yn ôl y cynnydd ac amgylchiadau’r
cyfnod. ‘ (para. 126 y ddogfen ymgynghori).

Bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn newid yn araf, boed hynny’n gynnydd neu’n ostyngiad oherwydd dyna yw natur newid demograffig. Mae’n cymryd amser i blant gael eu geni, eu magu a’u haddysgu, i bobl i symud  i mewn neu allan o’r wlad ac i’r hen do farw. Ond mae llif arian i gyllido rhagor o grwpiau meithrin, i hyfforddi athrawon, i adeiladu ysgolion, i gynnal eisteddfodau, i gyhoeddi llyfrau, ac yn y blaen, yn gallu newid yn sydyn, a hynny’n effeithio ar hyfywedd ein diwylliant yn sydyn. Rhaid i hyn gael ei amlygu ac ni wnaiff adroddiad pob pum mlynedd mo’r tro.

Wedi dweud hynny, mae eisiau adroddiad mwy swmpus pob pum mlynedd hefyd. Cymerodd yr adroddiad a luniais ar ddiwedd oes Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg, olwg mwy cynhwysfawr ar yr ystadagau na dim a’i ragflaenodd, ac fe’i olynwyd y llynedd gan adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg. Roedd Mesur y Gymraeg 2011 yn dweud fod yn rhaid i’r Comisiynydd gynhyrchu adroddiad o’r fath ac mae’n rhaid sicrhau nad oes llithro’n ôl i sefyllfa lle na cheir gorolwg cynhwysfawr, awdurdodol, annibynnol, ar y tueddiadau. Dylid deddfu y bydd yn rhaid i’r Comisiwn newydd gyhoeddi adroddiad o’r fath. Dywedwch hynny wrth y Llywodraeth wrth ymateb i’r ymgynghoriad.