Mae map o Gymru sy’n dangos y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gamarweiniol mewn ffordd gan fod ardaloedd mawr lle mae cymharol ychydig o bobl yn byw yn cymryd llawer o le ar y map, ac ardaloedd bach lle mae llawer o bobl yn byw fod yn anodd eu gweld. Mae cartogram, lle mae’r siâp yn y llun yn adlewyrchu maint y boblogaeth, yn ceisio osgoi’r broblem yna. Mae’r llun isod yn fath o gartogram, lle mae pob hecsagon yr un faint, a’r faint yno yn adlewyrchu yr un faint o boblogaeth, fwy neu lai. Yn yr achos yma mae pob hecsagon yn cynrychioli ardal cynnyrch ehangach haenen ganol (MSOA). Mae’r rheini wedi eu ffurfio i gynnwys tua’r un nifer o bobl. Yng Nghymru, cymedr nifer y trigolion mewn MSOA yn 2021 oedd 7,616. Gan mai dim ond am bobl 3 oed a throsodd y gofynnir am y Gymraeg, mae’r gymedr yn wahanol, 7,397, ond mae’r rhychwant yn sylweddol, a dim ond 4,834 yn y MSOA lleiaf (Gorllewin Dinbych) a 12,341 yn yr un mwyaf (Sgiwen a Jersey Marine).
Mewn 9 MSOA yn unig, un ym Môn a’r lleill i gyd yng Ngwynedd – allan o’r 408 MSOA sy yng Nghymru – oedd dros 70% o’r boblogaeth 3 oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Roedd 46,965 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, 8.7% o holl siaradwyr Cyymraeg Cymru.
Dangosir manylion – enw’r ardal, y nifer a chanran sy’n gallu siarad Cymraeg – wrth hofran uwchben yr hecsagon.
Ffynhonnell: tabl TS033
Mae’r enw a ddefnyddir i ddisgrifio’r ardal yn dod o Dŷ’r Cyffredin, drwy gymorth Comisiynydd y Gymraeg. Am ragor o fanylion gweler: