Trosglwyddo’r Gymraeg: dadansoddiad yn ôl gradd gymdeithasol fras

Cyhoeddwyd

04/08/2026

Cyflwyniad

Mae hwn yn adeiladu ar waith blaenorol yn ymwneud â throsglwyddo gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021. Talodd y cyntaf sylw arbennig i wahaniaethau daearyddol, rhyw ac oedran tra canolbwyntiodd yr ail ar effaith dosbarth economaidd-gymdeithasol (NS-SEC).

Mae cyfradd drosglwyddo’n cyfeirio at y ganran o blant 3 i 4 oed - mewn cartrefi lle mae o leiaf un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg - y dywedir eu bod yn gallu siarad Cymraeg o’r cyfanswm o blant 3 i 4 oed.

Mae’r dadansoddiad yma yn defnyddio data a gyhoeddwyd ar lefel awdurdod lleol, ac, ar gyfer Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr yn unig, a gyhoeddwyd ar lefel daeardyddol llai, sef ar lefel MSOA. Mae’r rheini’n ardaloedd sy’n cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o gartrefi a rhwng 5,000 a 15,000 o breswylwyr arferol.

Cyfyngir y dadansoddiad i gartrefi lle oedd o leiaf un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg. Prif ddiben y dadansoddiad yw canfod effaith gradd gymdeithasol fras ar drosglwyddo’r iaith.

Gradd gymdeithasol fras

  • AB Galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol uwch a chanolradd
  • C1 Galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol ar lefel goruchwylio, clercol ac iau
  • C2 Galwedigaethau llaw medrus
  • DE Galwedigaethau llaw rhannol fedrus a heb sgiliau; di-waith a galwedigaethau ar y radd isaf

Sylwer: dywed y SYG fod fersiynau 2021 a 2011 yn lled gymaradwy ond na ddylid ei ddefnyddio i weld tueddiadau dros y cyfnod hwnnw. Dengys y tabl canlynol sut newidiodd dosbarthiad y plant sy yn y dadansoddiad hwn dros y tri degawd.

Tabl 1: Dosbarthiad plant 3 i 4 oed mewn cartrefi Cymraeg, yn ôl categori Person Cyswllt y Cartref
Cyfrifiad AB C1 C2 DE Cyfanswm
2001 23 28 24 25 100
2011 24 27 27 22 100
2021 27 31 26 16 100
Tabl 2: Dosbarthiad plant y dadansoddiad yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr
Cyfrifiad AB C1 C2 DE Cyfanswm
2001 18 27 27 28 100
2011 19 25 31 25 100
2021 20 30 32 19 100

Siartiau y data crai (arsylliadau)

Dangosir y canlyniadau crai yn y siart canlynol.

Mae Ffig 1 wedi ei seilio ar ddata lefel awdurdod lleol. Gellid ei gymharu Ffig 3 sy’n adlewyrchu’r data wedi ei fodelu sy’n ei wneud yn haws i weld y patrymau.

  • yn gyntaf, yn gyffredinol mae cyfraddau trosglwyddo cartrefi lle mae dau oedolyn yn gallu siarad Cymraeg yn uwch na chartrefi rhiant unigol Cymraeg sy yn eu tro yn uwch na chartrefi lle un oedolyn yn unig sy’n gallu siarad Cymraeg;

  • yn ail, mae cyfraddau trosglwyddo Gwynedd yn uwch na chyfraddau ardal Sir Gâr, Ceredigion a Môn, sydd yn eu tro yn uwch na chyfraddau gweddill Cymru;

  • yn drydydd, yn gyffredinol mae cyfraddau trosglwyddo blant 4 oed yn uwch na’r cyfraddau i blant 3 oed. Mae’n gwestiwn a ydy’r gwahaniaeth yn adlewyrchu trosglwyddo o fewn y cartref mewn gwirionedd, neu’n adlewyrchu effaith addysg, hynny yw, bod rhai o’r plant pedair oed wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn hytrach nag ar yr aelwyd.

  • a oes graddiant gymdeithasol? Gweler Ffig 3, Ffig 4, Ffig 17

Cymru

Ffigur 1

Pedair sir

Nid yw data lefel MSOA ar gael am bob awdurdod lleol, dim ond ar gyfer Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr. (Mae 17 MSOA yng Ngwynedd, 9 ym Môn, 9 yng Ngheredigion a 25 yn Sir Gâr.) Mae Ffig 2 yn siartio data cyfan yr awdurdodau. Gellid ei gymharu â chanlyniad modelu y MSOA cymedrig ymhob awdurdod a ddangosir yn Ffig 16.

Ffigur 2

Modelu

Gyda data sir

Ffitiwyd model effeithiau sefydlog gan ddefnyddio y fformiwla isod:

iaith ~ cartref + gradd + oed + cyfrifiad + Sirgrwp + cartref:gradd + cartref:cyfrifiad + gradd:cyfrifiad + cartref:Sirgrwp

(Mae hwn yn debyg i’r model a ddefnyddiwyd i fodelu data y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol.) Mae Ffig 3 yn amlygu’r prif gasgliadau:

  • mae’r gyfradd drosglwyddo ar ei huchaf mewn cartrefi lle mae 2 oedolyn yn gallu siarad Cymraeg;
  • mae trosglwyddo’n digwydd yn amlach yng Ngwynedd nac yn Sir Gâr, Ceredigion a Môn, ond yn digwydd yn amlach yn y tair sir yna nag yng ngweddill Cymru.
  • mae cyfraddau plant 3 oed yn llai na chyfraddau plant 4 oed (ond gallai addysg yn hytrach na trosglwyddo’r iaith ar yr aelwyd fod yn gyfrifol am hynny).
  • mae awgrym o raddiant gymdeithasol ond profir am hynny isod.

Wedi modelu’r data, dengys y siartiau canlynol y cyfraddau drosglwyddo a ragwelir gan y model a’r cyfyngau hyder 95% am yr amcangyfrifon hynny.

Ffigur 3
Effaith gradd gymdeithasol
Ffigur 4
Averaged Contrasts Analysis

Level1 | Level2 | Difference |       SE |         95% CI |      z |      p
--------------------------------------------------------------------------
C1     | AB     |      -0.03 | 6.15e-03 | [-0.05, -0.02] |  -5.40 | < .001
C2     | AB     |  -5.89e-03 | 6.19e-03 | [-0.02,  0.01] |  -0.95 |  0.341
DE     | AB     |      -0.09 | 6.72e-03 | [-0.10, -0.07] | -12.76 | < .001
C2     | C1     |       0.03 | 6.05e-03 | [ 0.02,  0.04] |   4.52 | < .001
DE     | C1     |      -0.05 | 6.59e-03 | [-0.07, -0.04] |  -7.96 | < .001
DE     | C2     |      -0.08 | 6.62e-03 | [-0.09, -0.07] | -12.06 | < .001

Variable predicted: iaith
Predictors contrasted: gradd
p-values are uncorrected.
Contrasts are on the response-scale (in %-points).
Effeithiau unigol eraill
Cyfansoddiad y cartref
Ffigur 5
Oed y plentyn
Ffigur 6
Ardal
Ffigur 7
Averaged Contrasts Analysis

Level1                   | Level2                   | Difference |       SE
---------------------------------------------------------------------------
Sir Gâr, Ceredigion, Môn | Gwynedd                  |      -0.14 | 6.40e-03
Gweddill Cymru           | Gwynedd                  |      -0.35 | 5.72e-03
Gweddill Cymru           | Sir Gâr, Ceredigion, Môn |      -0.21 | 5.22e-03

Level1                   |         95% CI |      z |      p
-----------------------------------------------------------
Sir Gâr, Ceredigion, Môn | [-0.15, -0.13] | -21.71 | < .001
Gweddill Cymru           | [-0.36, -0.34] | -61.65 | < .001
Gweddill Cymru           | [-0.22, -0.20] | -40.87 | < .001

Variable predicted: iaith
Predictors contrasted: Sirgrwp
p-values are uncorrected.
Contrasts are on the response-scale (in %-points).
Cyfuniadau
Cartref ac ardal
Ffigur 8
Cartref a gradd gymdeithasol fras
Ffigur 9
Cartref a chyfrifiad
Ffigur 10
Gradd gymdeithasol, cyfrifiad ac ardal

Yn gyffredinol ni ellir gwahaniaethu rhwng cyfraddau C1 a C2 (Ffig 11 a Tabl 3 isod) ond mae gwahaniaeth rhwng AB a C2 (heblaw am yn 2001) a C2 a DE.

Ffigur 11
Tabl 3: Gwahaniaethau nad ydynt yn arwyddocaol yn ystadegol
Grŵp 1 Grŵp 2 Ardal Cyfrifiad Gwahaniaeth Terfan isaf cyfwng hyder 95% Terfan isaf cyfwng hyder 95% p
C2 AB Gwynedd 2001 -0.02 -0.03 -0.01 0.09
C2 C1 Gwynedd 2001 0.01 -0.01 0.02 0.96
C2 C1 Gwynedd 2021 0.02 0.00 0.03 0.16
C1 AB Sir Gâr, Ceredigion, Môn 2001 0.00 -0.02 0.02 0.96
C2 AB Sir Gâr, Ceredigion, Môn 2001 0.01 -0.01 0.03 0.96
C2 C1 Sir Gâr, Ceredigion, Môn 2001 0.01 -0.01 0.03 0.93
C2 C1 Sir Gâr, Ceredigion, Môn 2011 0.02 0.00 0.04 0.60
C2 C1 Sir Gâr, Ceredigion, Môn 2021 -0.01 -0.03 0.01 0.96
C1 AB Gweddill Cymru 2001 -0.01 -0.04 0.01 0.96
C2 AB Gweddill Cymru 2001 0.00 -0.02 0.03 0.96
C2 C1 Gweddill Cymru 2001 0.01 -0.01 0.04 0.93
C2 C1 Gweddill Cymru 2011 0.01 -0.01 0.03 0.96
C2 C1 Gweddill Cymru 2021 -0.02 -0.04 0.00 0.60
Gradd gymdeithasol a chyfrifiad, yn ôl ardal
Ffigur 12
Ffigur 13
Ffigur 14