Trosglwyddo’r Gymraeg: dadansoddiad yn ôl NS-SEC
Cyflwyniad
Mae hwn yn ddiweddariad o’r dadansoddiad cyntaf a gyhoeddwyd ar 9 Medi 2025. O’i gymharu â’r fersiwn wreiddiol mae ambell mân gywiriad yn y testun ond y prif newid yw fod hwn yn cynnwys cywiriad i gyfyngau hyder Ffig 1 a Ffig 2.
Mae hwn yn adeiladu ar waith blaenorol ar bwnc trosglwyddo’r iaith gyda data Cyfrifiad 2021 a dadansoddiad yn ymwneud â throsglwyddo a NS-SEC a wnaed gyda data cyfrifiadau 2001 a 2011.
Mae dadansoddiad mwy cyffredinol am y berthynas rhwng siarad Cymraeg a statws economaidd-gymdeithasol, fel y’i mesurir gan NS-SEC, ar gael yma
Canlyniadau
Cyfyngir y dadansoddiad i gartrefi lle oedd o leiaf un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg. Prif ddiben y dadansoddiad yw canfod effaith dosbarth economaidd-gymdeithasol ar drosglwyddo’r iaith.
Lefelau Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
- L1 a L2: Cyflogwyr mawr a galwedigaethau rheoli a gweinyddol uwch
- L3: Galwedigaethau proffesiynol uwch
- L4, L5 ac L6: Galwedigaethau proffesiynol, technegol, rheoli a gweinyddol is
- L7: Galwedigaethau canolradd
- L8 ac L9: Cyflogwyr bach a gweithwyr hunan-gofnod
- L10 ac L11: Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is
- L12: Galwedigaethau rhannol gyffredin
- L13: Galwedigaethau cyffredin
- L14.1 ac L14.2: Erioed wedi gweithio a phobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir
- L15: Myfyrwyr amser llawn
Sylwer: dywed y SYG nad yw’r dosbarthiad a ddefnyddiwyd ar gyfer 2021 yn gymararadwy ag un 2011. Dengys y tablau canlynol sut newidiodd dosbarthiad y plant sy yn y dadansoddiad hwn dros y tri degawd. Gwelir fod tua 60% ohonynt mewn cartrefi lle oedd person cyswllt y cartref yn un o lefelau L4-L11.
Dim ond ar lefel awdurdod lleol y mae’r data ar gael am yr un ar ddeg o lefelau. Ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Ganol (MSOAs) dim ond data am 4 grŵp o lefelau NS-SEC sy ar gael.
Dosbarthiad plant 3 i 4 oed mewn cartrefi Cymraeg, yn ôl categori Person Cyswllt y Cartref
- gan ddefnyddio’r categorïau sy ar gael yn y data ar lefel awdurdod lleol:
| Cyfrifiad | L1-L2 | L3 | L4-L5-L6 | L7 | L8-L9 | L10-L11 | L12 | L13 | L14.1 | L14.2 | L15 | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 2001 | 4 | 8 | 24 | 7 | 15 | 14 | 12 | 13 | 2 | 2 | 1 | 100 |
| 2011 | 2 | 11 | 26 | 9 | 14 | 10 | 12 | 11 | 2 | 2 | 1 | 100 |
| 2021 | 4 | 12 | 27 | 10 | 14 | 8 | 9 | 11 | 2 | 1 | 2 | 100 |
- gan ddefnyddio’r categorïau sy ar gael yn y data ar lefel MSOA (Middle Layer Super Output Areas/Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Ganol)
| Cyfrifiad | L1-L3 | L4-L11 | L12-L13 | L14-L15 | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 2001 | 12 | 57 | 23 | 8 | 100 |
| 2011 | 13 | 60 | 22 | 5 | 100 |
| 2021 | 17 | 59 | 20 | 5 | 100 |
Siartiau y data crai (arsylliadau)
Dangosir y canlyniadau crai yn y siart canlynol.
Mae Ffig 1 yn dangos canlyniadau Cyfrifiad 2021 am y 4 grŵp NS-SEC. Mae’n anodd gweld y patrymau. Mae’r rheini i’w gweld yn gliriach yn Ffig 5 sy’n adlewyrchu’r model ystadegol sydd wedi ei ffitio i’r data. Mae’r siartiau cyfatebol o ddata’r 11 grŵp i’w gweld yn Ffig 2 a Ffig 3.
Gan ganolbwyntio ar y 4 grŵp NS-SEC, gwelir:
yn gyntaf, yn gyffredinol mae cyfraddau trosglwyddo cartrefi lle mae dau oedolyn yn gallu siarad Cymraeg yn uwch na chartrefi rhiant unigol Cymraeg sy yn eu tro yn uwch na chartrefi lle un oedolyn yn unig sy’n gallu siarad Cymraeg;
yn ail, mae cyfraddau trosglwyddo Gwynedd yn uwch na chyfraddau ardal Sir Gâr, Ceredigion a Môn, sydd yn eu tro yn uwch na chyfraddau gweddill Cymru;
yn drydydd, yn gyffredinol mae cyfraddau trosglwyddo blant 4 oed yn uwch na’r cyfraddau i blant 3 oed. Mae’n gwestiwn a ydy’r gwahaniaeth yn adlewyrchu trosglwyddo o fewn y cartref mewn gwirionedd, neu’n adlewyrchu effaith addysg, hynny yw, bod rhai o’r plant pedair oed wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn hytrach nag ar yr aelwyd.
yn bedwerydd, a dyma elfen sy’n newydd yn y dadansoddiad hwn, awgrymir fod rhywfaint o raddiant economaidd-gymdeithasol, gyda’r cartref sydd yn cynnwys rheolwyr, gweinyddwyr a phobl broffesiynol uwch (h.y. L1-L3) yn trosglwyddo’n fwy llwyddiannus na rhai yn L4-L11 a’r rheini’n gwneud yn well na rhai L14-15.
Mae’r data am y 11 grŵp yn Ffig 2 yn awgrymu eto fod perthynas rhwng trosglwyddo â dosbarth sosio-economaidd, a chyfraddau trosglwyddo’n gostwng wrth symud o L1-L2 trwodd at L15 OND mae’r cyfyngau hyder am y cymedrau’n dweud wrthym na allwn fod yn sicr am hyn. Gellid ei gymharu â Ffig 3 sy’n adlewyrchu’r model.
4 grŵp NS-SEC
11 grŵp NS-SEC
Modelu
Oherwydd fod niferoedd cymharol fach mewn rhai o’r categorïau mae’n eithaf anodd gweld rhai o’r tueddiadau. Ffitiwyd modelau ystadegol i’r data fel y gellir gweld pethau’n eglurach. Y model a ddefnyddiwyd oedd un sy’n cymryd fod iaith y plentyn yn cael ei bennu drwy effaith y math o gartref, dosbarth-economaidd, oed, ardal, cyfrifiad ac adwaith rhwng rhai o’r elfennau hynny.
Wedi modelu’r data, dengys y siartiau canlynol y cyfraddau drosglwyddo a ragwelir gan y model a’r cyfyngau hyder 95% am yr amcangyfrifon hynny.
11 grŵp NS-SEC (model effeithiau sefydlog)
Mae Ffig 2 yn defnyddo’r data oedd ar gael am yr awdurdodau lleol yn unig. Ffitwyd model effeithiau sefydlog gan ddefnyddio’r fformiwla:
iaith ~ cartref + categori + oed + Sirgrwp + cyfrifiad + cartref:Sirgrwp + cartref:categori + cartref:cyfrifiad + categori:cyfrifiad
Mae Ffig 3 yn amlygu’r prif gasgliadau:
- mae’r gyfradd drosglwyddo ar ei huchaf mewn cartrefi lle mae 2 oedolyn yn gallu siarad Cymraeg;
- mae trosglwyddo’n digwydd yn amlach yng Ngwynedd nac yn Sir Gâr, Ceredigion a Môn, ond yn digwydd yn amlach yn y tair sir yna nag yng ngweddill Cymru.
Nid yw’n amlwg a oes graddiant cymdeithasol: am hynny rhaid edrych ar Ffig 4
Sylwer
Mae ffermwyr ran amlaf wedi eu cynnwys yn NS-SEC L9.
Effaith NS-SEC (11 grŵp) (model effeithiau sefydlog)
Y fformiwla a ddefnyddiwyd gyda’r data oedd ar gael ar lefel awdurdod lleol oedd:
iaith ~ cartref + categori + oed + Sirgrwp + cyfrifiad + cartref:Sirgrwp + cartref:categori + cartref:cyfrifiad + categori:cyfrifiad
Gwelir felly fod rhyngweithiad rhwng NS-SEC, math o gartref a chyfrifiad. Mae’r siart canlynol yn cymryd y rheini i ystyriaeth.
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r gwahaniaethau yn Ffig 4 nad ydynt yn arwyddocaol yn ystadegol (h.y. lle mae p>0.05).
| Grŵp 1 | Grŵp 2 | p |
|---|---|---|
| L4-L5-L6 | L1-L2 | 0.06 |
| L7 | L1-L2 | 0.82 |
| L10-L11 | L1-L2 | 0.82 |
| L12 | L1-L2 | 0.65 |
| L13 | L1-L2 | 0.82 |
| L15 | L1-L2 | 0.82 |
| L4-L5-L6 | L3 | 0.76 |
| L15 | L4-L5-L6 | 0.10 |
| L10-L11 | L7 | 0.82 |
| L12 | L7 | 0.82 |
| L13 | L7 | 0.82 |
| L15 | L7 | 0.82 |
| L12 | L10-L11 | 0.24 |
| L13 | L10-L11 | 0.82 |
| L15 | L10-L11 | 0.82 |
| L13 | L12 | 0.82 |
| L14.2 | L12 | 0.07 |
| L15 | L12 | 0.82 |
| L15 | L13 | 0.82 |
| L14.2 | L14.1 | 0.20 |
| L15 | L14.2 | 0.27 |
4 grŵp NS-SEC (model effeithiau cymysg)
Mae 408 o MSOAs. Cânt eu trin yn y model hwn fel effaith hap yn hytrach na fel effaith sefydlog.
Y fformiwla a ddefnyddiwyd gyda’r data oedd ar gael ar lefel MSOA oedd:
iaith ~ cartref + categori + oed + Sirgrwp + cyfrifiad + cartref:Sirgrwp + cartref:categori + cartref:cyfrifiad + categori:cyfrifiad + (1 | msoa21hclnmw)1
Mae yn anodd o hyd gweld effaith elfennau unigol y model. Mae’r siartiau canlynol yn cyfrifo cyfartaleddau dros yr elfennau nad ydynt dan sylw. Er enghraifft, mae’r siart sy’n canolbwyntio ar effaith NS-SEC yn cyfrifo cyfartaleddau dros y tri chyfrifiad, oedrannau 3 a 4, y cartrefi gwahanol a’r tair ardal.
Effaith NS-SEC (4 grŵp)
Wrth edrych ar Ffig 6 gellid meddwl fod graddiant cymdeithasol ond mewn gwirionedd nid oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng effaith L1-L3 a L4-11 (p=0.2). Y cyfan sy gyda ni felly yw gostyngiad o L1-11 i L12-L13 ac o L12-L13 i L14-L15.
Effeithiau unigol eraill
Cyfuniadau
NS-SEC, cyfrifiad ac ardal
Er bod llawer o’r cyfyngau hyder i’w gweld yn orgyffwrdd yn Ffig 13 isod, yn gyffredinol mae’r gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol (p<0.05).
Dyma’r eithriadau:
| Grŵp 1 | Grŵp 2 | Ardal | Cyfrifiad | Gwahaniaeth | Terfan isaf cyfwng hyder 95% | Terfan isaf cyfwng hyder 95% | p |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| L4-L11 | L1-L3 | Gwynedd | 2001 | 0.00 | -0.02 | 0.01 | 0.94 |
| L14-L15 | L12-L13 | Gwynedd | 2011 | -0.03 | -0.06 | 0.00 | 0.23 |
| L4-L11 | L1-L3 | Sir Gâr, Ceredigion, Môn | 2001 | 0.00 | -0.02 | 0.03 | 0.94 |
| L14-L15 | L12-L13 | Sir Gâr, Ceredigion, Môn | 2021 | -0.06 | -0.10 | -0.01 | 0.08 |
| L4-L11 | L1-L3 | Gweddill Cymru | 2001 | 0.00 | -0.03 | 0.03 | 0.94 |
| L14-L15 | L12-L13 | Gweddill Cymru | 2021 | -0.04 | -0.08 | 0.00 | 0.14 |