Cyfrifiad 2021: sgiliau yn y Gymraeg, yn ôl awdurdod lleol

Awdur

@statiaith

Cyhoeddwyd

11/12/2022

Sgiliau yn y Gymraeg

Siart sgil neu sgiliau penodol

Mae pedwar sgil: gallu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu, a chymysgeddau gwahanol yn bosibl. Fe’u rhestrir yn y blwch dewis. Mae’r siart isod yn dangos y niferoedd â’r sgil a ddewisir, Bydd y siart yn newid i ddangos y sgil, gan ddangos yr awdurdodau mewn trefn ddisgynnol. Os byddwch yn hofran uwchben bar, cewch weld y niferoedd â’r sgil yn yr awdurdod yna. Mae’r holl ddata’n cael eu dangos mewn tabl isod.

Siart sgiliau’r boblogaeth gyfan

Data llawn

Map y Swyddfa Ystadegol Gwladol (SYG)

Mae map y Swyddfa Ystadegol Gwladol yn rhoi’r canrannau, ond ddim y niferoedd, ar lefelau daearyddol is, i lawr at lefel ardaloedd cynnyrch.

Map Dafydd Elfryn

Mae map @DafyddElfryn hefyd, yn debyg i fap y SYG yn rhoi’r canrannu ar lefel daearyddol is ond â’r fantais fod modd rhidyllu’r canrannau, e.e. fel y gellir gweld yr ardaloedd lle roedd dros 70% yn gallu siarad Cymraeg (cyfuniad o bod categori’n cynnwys y gallu i siarad Cymraeg).


Ffynhonnell